Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 22 Mehefin 2016.
Mae llawer iawn o’r arian, wrth gwrs, sy’n cael ei fuddsoddi i fynd i’r afael â’r her o lifogydd yn dod o ffynonellau Ewropeaidd, wrth gwrs. A fyddech chi’n cytuno â mi felly, Ysgrifennydd Cabinet, y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gadael nifer o’r cymunedau hyn hyd yn oed yn fwy ‘exposed’ i’r risg o ddioddef gorlifo, yn enwedig mewn ardaloedd fel Gorllewin Clwyd?