<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:39, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Maddeuwch i mi am nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod yr ymateb hwnnw braidd yn brin o fanylion. Yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw achosion hirdymor o addewidion wedi’u torri gan y cwmnïau dan sylw. Mae gennyf etholwr a ysgrifennodd ataf o Abergorlech, yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a gafodd addewid o uwchraddiad i fand eang ffeibr yn 2015; ni ddigwyddodd hynny. Yna cafodd addewid y buasai’n digwydd erbyn mis Mehefin eleni; nid yw hynny wedi digwydd. Cafodd wybod yn ddiweddar y bydd yn rhaid iddo aros tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf cyn y bydd unrhyw obaith o welliant. Felly, tybed pa gamau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i roi pwysau ar y cwmnïau sy’n gyfrifol am gyflwyno band eang yn yr ardaloedd hyn?