<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:40, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu y dylai’r anrhydeddus Aelod fod yn drugarog wrth dderbyn fy mea culpa. Ond wrth gwrs, 30 mlynedd yn ôl, ni allem ragweld y dyfodol gyda’r sicrwydd sydd gan Aelodau heddiw mewn perthynas â dyfodol yr Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, lle cafwyd camgymeriad flynyddoedd mawr yn ôl, efallai y dylem yn awr ailystyried yr opsiynau hynny, ac rwy’n meddwl tybed a fuasai Llywodraeth Cymru yn ystyried hynny hefyd.