Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae yna dîm pwysig arall wedi bod ym Mharis, o flaen y tîm pêl-droed, yr oeddem ni yn ei longyfarch ac yn dymuno’n dda iddyn nhw gynnau bach, sef y tîm wedi’i arwain gan y cyn-Weinidog a aeth i’r trafodaethau newid hinsawdd ym Mharis cyn y Nadolig y llynedd. Yn sgil y trafodaethau hynny, a ydy’r Llywodraeth hyn—eich Llywodraeth chi—yn ystyried ei hunan wedi’i hymrwymo, os nad yn gyfreithlon o leiaf yn foesol, i gyrraedd y targedau a osodwyd yng nghytundeb Paris?