Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch am y cadarnhad hwnnw. Wrth gwrs, mae’r cytundeb hwnnw’n gosod cwrs i fynd at allyriadau carbon o sero, dim, erbyn ail hanner y ganrif hon ac i ddal allyriadau carbon i dyfiant o 1.5 y cant tan hynny. Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae newyddion wedi dod ein bod ni ar fin pasio’r trothwy symbolaidd ond pwysig o 400 rhan y filiwn o allyriadau carbon, sy’n dangos bod yr holl fyd yn bell oddi ar y targed. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yr oedd eich Llywodraeth yn gyfrifol amdano yn y Cynulliad diwethaf, yn gosod allan targed ar ostwng allyriadau carbon erbyn 2050. A ydych chi’n dal i ystyried y targed yma’n ddigonol i gwrdd â’r uchelgais yng nghytundeb Paris?