Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch i chi am y cadarnhad hwnnw, ond rwy’n credu bod angen i ni barhau i adolygu’r targedau hyn, oherwydd mae’n bosibl na fydd targed o 80 y cant o ostyngiad yn ddigon mewn gwirionedd i gyfrannu at uchelgais Paris yn gyffredinol. Ond un o’r ffyrdd allweddol y gallem ni yng Nghymru gyfrannu tuag at ein targedau ein hunain a thargedau byd-eang yw drwy ynni adnewyddadwy wedi’i ddatblygu’n well. Rydym eisoes wedi clywed ychydig am hynny o ogledd Cymru. Oni fyddai’n well, felly, pe bai gennym reolaeth dros brosiectau ynni o dan Fil Cymru heb unrhyw gyfeiriad at drothwyon o gwbl? Felly, er enghraifft, gallem roi gwell cefnogaeth a hyder i syniadau cyffrous a gwych megis y morglawdd ym mae Abertawe, ac rwy’n datgan buddiant fel cyfranddaliwr cymunedol yn y prosiect hwnnw.