Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad am fy nghynlluniau i fynd i’r afael â TB mewn gwartheg yn yr hydref. Bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol yn adeiladu ar y rhaglen gyfredol i ddileu TB ac yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, gan fynd i’r afael â holl ffynonellau’r haint er mwyn parhau â’r duedd ostyngol hirdymor yn nifer yr achosion o’r clefyd.