Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 22 Mehefin 2016.
Mae pob un ohonom yn cydnabod y fantais o gynyddu mynediad i gefn gwlad mewn perthynas â hamdden a gwella iechyd a lles y cyhoedd. Fodd bynnag, mae grwpiau fel y Gynghrair Cefn Gwlad wedi rhybuddio y gallai mynediad anghyfyngedig i gefn gwlad effeithio’n amgylcheddol ar gynefinoedd afon, difrodi tiroedd a chyfyngu ar allu tirfeddianwyr i reoli a diogelu eu tir. Weinidog, mae gennyf ffrind sy’n byw ychydig y tu allan i ffin fy rhanbarth, Dr Randhawa, ac mae’n cynnal yr holl lwybrau sy’n croesi ei dir. Nid yw’r cyngor byth yn rhoi ceiniog tuag at y gwaith, ond mae bob amser yn cael trafferth gyda’r cyngor lleol a biwrocratiaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno bod yn rhaid i unrhyw gynnig i agor mynediad at gefn gwlad ystyried barn y rhai sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru, a’r rhai sy’n ei gynnal?