Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch. Mi oedd hi’n dda gweld yr NFU yma yn y Senedd heddiw yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y diwydiant. Ond, beth mae’r NFU, fel ffermwyr ledled Cymru, yn chwilio amdano fo ydy nid yn unig geiriau o gefnogaeth gan y Llywodraeth, ond gweithredoedd hefyd. Rŵan, mi gafwyd addewid gan Weinidog blaenorol y byddai’r gallu gan y cynllun datblygu gwledig newydd i fod yn drawsnewidiol o ran yr economi wledig ac o ran y diwydiant amaeth. Ddwy flynedd i mewn i’r rhaglen, mae cael dim ond llond llaw o brosiectau wedi’u cymeradwyo ymhell iawn, iawn o fod yn drawsnewidiol. Mae ffermwyr yn fy etholaeth i yn Ynys Môn, fel ledled Cymru, yn dal i aros. Pa bryd mae’r trawsnewid am ddigwydd ac a wnaiff y Gweinidog rannu ei gweledigaeth ynglŷn â’r potensial i’r cynllun datblygu gwledig newydd?