Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 22 Mehefin 2016.
Yn dilyn y cwestiwn hwnnw, mae’n amlwg fod yr ansawdd aer ym Mhort Talbot, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael sylw fel un o’r gwaethaf yng Nghymru. Yn wir, dywedodd adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd a gyhoeddwyd yn ddiweddar mai dyna’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU mewn perthynas â rhai gronynnau, ac yn sicr mae’n un o’r rhai gwaethaf yn y DU. Rwy’n deall y problemau sydd gennym. Mae gennym ardal ddiwydiannol iawn, mae gennym lain arfordirol gul gyda’r M4 yn rhedeg drwyddi, ac maent yn effeithio ar lefelau llygredd a gronynnau, ond mae angen i ni wneud mwy mewn gwirionedd i leihau unrhyw gynnydd.
Rwy’n deall bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith gan Brifysgol Birmingham a Choleg y Brenin, Llundain i edrych ar oblygiadau ansawdd aer. A allech roi datganiad am ganlyniadau’r gwaith ymchwil hwnnw ac a allwch sicrhau hefyd y bydd modd gwella’r problemau sy’n codi o ansawdd aer ym Mhort Talbot, am ein bod yn wynebu rhai o’r heriau sydd o’n blaenau?