Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch. Mae perygl llifogydd i eiddo yn Abercynon, Aberaman, Cilfynydd, Cwm-du ac Ynysboeth yn fy etholaeth wedi cael ei leihau drwy raglen lliniaru llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd Rhondda Cynon Taf, a ariennir gan raglen gyfalaf y cyngor, arian Llywodraeth Cymru a chyllid datblygu rhanbarthol Ewrop. A ydych chi’n cytuno y gallai’r cynlluniau hyn i ddiogelu cartrefi a theuluoedd rhag y dinistr a achosir gan lifogydd fod mewn perygl pe na baem yn rhan o’r UE?