Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ond, edrychwch, ni allwch gadw eich dwylo yn lân ar hyn, Mark. Dywedais yn gynharach fod trechu tlodi yng Nghymru yn arbennig o anodd am nad oedd gennym yr holl ddulliau yn ein meddiant. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi torri £1.2 biliwn oddi ar gyllid Cymru, ac mae hynny’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Felly, er y byddwn yn ceisio ac yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i gyflawni gwell canlyniadau ar gyfer ein teuluoedd ledled Cymru, carwn ofyn hefyd i’r Aelod gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i chwilio am gyllid teg i Gymru, fel y gallwn ei drosglwyddo ymlaen i deuluoedd yma yng Nghymru.