Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 22 Mehefin 2016.
Rwy’n byw yng Nghymru. Rwyf braidd yn bryderus nad yw’r Gweinidog yn ymwybodol o’r hyn y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu ei wneud yn y maes hwn. Mae wedi siarad yn huawdl am gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ac adfywio cymunedol, ond mae’n ymddangos ei fod ef a’i Lywodraeth yn dilyn trywydd ymwahanol drwy’r cydweithio hwn â Phlaid Cymru. Tybed oni wneid defnydd gwell ohono’n gweithio gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau ein bod, yn ogystal â pharhau i gael yr holl arian hwn yn llifo i Gymru, ein bod hefyd yn cael ein cyfran o’r difidend annibynniaeth o £10 biliwn sy’n ddyledus?