<p>Ymddygiad Gwrthgymdeithasol </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:43, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae presenoldeb gweladwy swyddogion mewn iwnifform yn ein cymunedau yn rhoi tawelwch meddwl ac yn chwarae rôl hanfodol wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gyda thoriadau Llywodraeth San Steffan i blismona, mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn ffordd o gefnogi ein heddlu a gwasanaethu ein cymunedau. Mae’r 101 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu ar gyfer Gwent yn gwneud gwahaniaeth pwysig ac yn cyfrannu’n sylweddol at blismona yn yr ardal. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd yn gweithio gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu i sicrhau bod hynny’n parhau, a bod trechu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth?