<p>Mynd i’r Afael â Thlodi</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:49, 22 Mehefin 2016

Mae hanes strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi yn ymddangos i mi, beth bynnag, yn un o osod dyheadau tymor hir er mwyn rhoi terfyn ar dlodi, ond heb osod targedau penodol byrdymor ac adnoddau priodol ar gyfer eu cyflawni. Yn aml iawn, mae’r dyheadau yn cael eu gohirio neu’u gollwng yn gyfan gwbl pan fydd y Llywodraeth yn sylweddoli nad yw hi’n bosib i’w cyflawni. Oherwydd bod amgylchiadau heddiw yn wahanol iawn i’r hyn yr oeddent ddegawd yn ôl, onid ydy hi rŵan yn bryd i ailfeddwl a chanolbwyntio ar brosiectau a pholisïau sy’n mynd i’r afael â thlodi mewn gwirionedd ac mewn modd mesuradwy?