Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Gwm Cynon, Vikki Howells, canmolodd Ysgrifennydd y Cabinet waith Ymddiriedolaeth Trussell a’r gwirfoddolwyr sy’n cyflawni’r gwaith hwnnw ledled Cymru. Bydd llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon yn ymwybodol o waith cadeirydd Cymru yn Ymddiriedolaeth Trussell a chadeirydd Gogledd Iwerddon hefyd yn wir, Tony Graham, sy’n digwydd bod yn un o fy etholwyr. Mae wedi siarad am raglen More Than Food Ymddiriedolaeth Trussell sy’n mynd â’r gwaith y maent yn ei wneud y tu hwnt i fanciau bwyd i ddarparu gwasanaethau megis cyngor ar ddyledion, cyrsiau sgiliau coginio a chyllidebu. A wnaiff y Gweinidog ganmol y gwaith y mae Ymddiriedolaeth Trussell yn ei wneud, a chroesawu hefyd y gwasanaethau ychwanegol hyn sy’n darparu cymorth hanfodol i unigolion yn ein cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn arbennig gan gosbau Llywodraeth y DU o ran budd-daliadau, a chydnabod bod y gwaith hwn yn hollbwysig er mwyn gwneud iawn am y problemau hynny?