<p>Blaenoriaethau ar gyfer Portffolio Cymunedau a Phlant </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:57, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Mae lles yn rhan bwysig iawn o’ch portffolio, Weinidog, ac fel rwy’n siŵr eich bod yn gwybod, mae adroddiad blynyddol NSPCC, ‘How Safe are our Children?’, yn tynnu sylw at gynnydd o 26 y cant yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant o dan 16 oed yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf—ffigurau sydd wedi dyblu dros y degawd diwethaf. A wnewch chi ategu fy nghroeso i’r adroddiad hwn, ac a wnewch chi ystyried gweithredu ar argymhelliad yr NSPCC y dylid datblygu cynllun cynhwysfawr mewn perthynas â cham-drin plant yn rhywiol, a gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth, fel y gellir diwallu anghenion plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol, a’u teuluoedd?