<p>Gwasanaethau Mabwysiadu</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:58, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Lywydd, rwy’n deall eich bod hefyd wedi grwpio 10 a 15, ac wedi cytuno i’r rheini gael eu grwpio heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddatblygu a chryfhau cyfeiriad strategol gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru ymhellach. Rydym am sicrhau bod gan deuluoedd sy’n mabwysiadu fynediad at wasanaethau mabwysiadu amserol a phriodol, pa le bynnag y maent yn byw yng Nghymru.