<p>Canlyniadau ar gyfer Plant sy’n derbyn Gofal</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:04, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ganmol ei ddatganiad cyffredinol: y dylai ein disgwyliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal fod yn debyg, os nad yn union yr un fath, â’r hyn ydynt ar gyfer gweddill y boblogaeth? Rwyf wedi bod yn y Cynulliad hwn bellach ers ychydig dros 17 mlynedd, ac rwyf wedi clywed Gweinidogion yn dweud dro ar ôl tro ein bod ar fin torri tir newydd mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal. Nid yw erioed wedi digwydd. Mae’n gyfrifoldeb arnom i gyd—y rheini sy’n craffu ar y polisïau hyn lawn cymaint â’r Gweinidogion. Ond mewn gwirionedd, gallai Cymru arwain y ffordd yn y DU ac yn wir, yn Ewrop, o ran cael y maes hanfodol hwn o bolisi cyhoeddus yn iawn.