Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig ein gwelliannau i’r ddadl eang iawn ond hynod o ddefnyddiol hon.
Bloedd rhyfel arweinydd Plaid Cymru yn yr etholiad oedd nad oedd gan ei phlaid unrhyw beth yn gyffredin â’r Torïaid ac na fyddai’n gweithio gyda ni. Eto i gyd, yr wythnos diwethaf yn unig, galwasant am gorff hyd braich ar gyfer datblygu economaidd—polisi hirsefydlog y Ceidwadwyr Cymreig—a dyma ni, unwaith eto, yn tynnu sylw at achos cyffredin, gan adlewyrchu’r hyn a allai fod ychydig yn anghyfforddus i Leanne Wood, ond sy’n ffynhonnell o obaith, rwy’n meddwl, i’r pleidleiswyr: y gall gwrthbleidiau weithio gyda’i gilydd i herio’r hen status quo. Rydym yn cefnogi’r cynnig hwn, ac rydym yn cefnogi gwelliant 4.
Nid oes unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng cartrefi gofal meddygol GIG Plaid Cymru a’n cynlluniau ar gyfer y defnydd arloesol o ysbytai cymunedol, wedi’u cefnogi gan gronfa ddatblygu. Wrth gwrs, bydd rhai o’r adeiladau hynny yn anaddas ar gyfer cynnig ffyrdd newydd o ddarparu triniaeth leol mewn gofal, ac mae’r ddadl yn parhau felly dros gael adeiladau amlbwrpas cynaliadwy yn eu lle. Fodd bynnag, cafodd cyfleusterau mwy modern, fel Gellinudd, Cimla a Maesgwyn yn fy rhanbarth i, eu cau, gyda’r colli gwelyau anochel a ddigwyddodd yn sgil hynny, er mwyn helpu i gyfiawnhau’r tanddefnydd o’r ysbyty menter cyllid preifat ym Maglan ac i osgoi sefydliadu cleifion. Wel, bellach, mae gormod o gleifion oedrannus a bregus yn cael eu sefydliadu mewn gwelyau acíwt drud gan fod gofal llai dwys yn brin a chaiff pecynnau gofal cartref eu gohirio. Weithiau nid yw’r gofal yn y cartref yn diwallu anghenion, gydag aildderbyniadau yn sgil methiannau cymorth. Felly, rydym yn cytuno â phwynt 2(a) y cynnig wrth gwrs. Byddai comisiwn trawsbleidiol ar ddarparu gofal cynaliadwy hirdymor yng Nghymru, fel y galwodd y Ceidwadwyr Cymreig amdano, yn helpu i gasglu’r dystiolaeth a nodi a fyddai’r newidiadau y mae Plaid Cymru yn eu cynnig yn gweithio ai peidio. Byddai comisiwn o’r fath yn casglu’r dystiolaeth a fyddai’n sail i ddeddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio, gan ddarparu integreiddiad mwy organig o’r ddwy system yn hytrach na tswnami strwythurol enfawr. O dan ein cynigion, byddai gan Gymru gronfa arloesi gofal gwerth £10 miliwn i hybu’r cydweithio hwnnw ar bob lefel, gan gynnwys ymadfer ac ailalluogi, ac a fyddai’n ymateb i heriau daearyddol.
Mae’n dda, onid yw, fod maniffestos y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi ymrwymo—y ddwy ohonom—i gyflwyno arbenigedd o ran y modd y caiff meddygaeth ei darparu yn yr ardaloedd gwledig? Tybed a ydych wedi codi’r tir cyffredin braidd yn anghyfleus hwnnw drwy gytuno y byddai unedau symudol yn darparu triniaeth ganser yn gyfraniad defnyddiol tuag at gydraddoli mynediad at driniaethau mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig, neu a ydych yn mynd i anghytuno â ni er mwyn ymbellhau oddi wrthym? Fy hun, rwy’n meddwl y byddai cefnogi ein hail welliant yn arwydd calonogol iawn i bleidleiswyr Cymru bod ein nifer cyfartal o bleidleisiau yn y Siambr hon yn cael eu defnyddio i ddwyn y Llywodraeth Lafur hon i gyfrif am ei methiant mewn perthynas â mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd.
Felly, gadewch i ni beidio ag anghofio ein gwelliant cyntaf. Byddai’r asesiadau aros yn y cartref yn helpu i atal argyfyngau sydd angen ymyrraeth iechyd a gofal cymdeithasol ddwys drwy helpu dinasyddion i gynllunio ymlaen llaw—dyna’r gwahaniaeth o ran yr hyn sy’n digwydd yn bennaf yn awr—ffyrdd o uchafu eu gobaith o fyw’n annibynnol pan allai digwyddiadau a chyflyrau meddygol, corfforol neu feddyliol, sy’n gysylltiedig ag oedran, wneud byw gartref yn anos, yn y ffordd a ddymunant. Ni fyddai ond yn costio rhan fach iawn o’r £21 miliwn y mae ein GIG ar hyn o bryd yn ei wario ar gadw pobl mewn gwelyau acíwt am 27 diwrnod ar gyfartaledd, o ganlyniad i oedi wrth drosglwyddo gofal. Wrth gwrs, bydd yn helpu rhai ohonynt i osgoi’r angen i symud i ofal preswyl yn y lle cyntaf—ac ar hynny, mae’r gymdeithas fawr yn dal yn fyw ac yn iach ar y meinciau hyn mewn perthynas â gofal personol. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gweld y manteision o gynnwys mentrau cydfuddiannol a chydweithredol ar gyfer darparu gofal o’r radd flaenaf—rhywbeth arall, er mawr embaras, sydd gan Blaid Cymru a’r Torïaid eraill yn gyffredin.
Rydym hefyd yn cydnabod uchelgais Plaid Cymru i gynyddu nifer y meddygon teulu, a’r angen cyffredinol am ragor o leoedd hyfforddi yng Nghymru i wella capasiti’r GIG lle mae angen gwneud hynny, gan gynnwys yn yr ardaloedd a nodoch. Byddwn yn parhau i ddadlau dros ragor o nyrsys arbenigol, nyrsys sy’n rhagnodi a nyrsys ymgynghorol yn y GIG yng Nghymru hefyd. A ydych yn cytuno â ni ar hynny, neu a yw hynny’n rhy Dorïaidd i chi hefyd?
Yn olaf, mae’r cynnig yn cydnabod bod mwy o angen y gwasanaethau iechyd ar bobl hŷn nag ar y rhan fwyaf o bobl eraill. Bydd y comisiynydd pobl hŷn yn hyrwyddo nifer cynyddol o bobl dros y ddau ddegawd nesaf ac mae angen i’r comisiynydd fod yn fwy pwerus er mwyn gwneud ymyriadau pwerus. Nid yw hynny ond yn un o’r rhesymau pam y cred y Ceidwadwyr Cymreig y dylid adolygu rôl y comisiynydd pobl hŷn, a gwneud y comisiynydd yn atebol i’r Cynulliad hwn—cyfaill beirniadol i’r Llywodraeth, ond yn atebol i bobl Cymru. Byddai diddordeb gennyf wybod, ar sail hynny a fyddwch yn barod i gefnogi’r gwelliant hwn, neu a fyddwch yn dangos eich bod yn wahanol i’r Torïaid, yn gyfaill anfeirniadol i’r Blaid Lafur, y blaid y mae ei rhyfelgri wrth-Dorïaidd yn boddi galwad Cymru am wrthbleidiau adeiladol a chydweithredol i herio a chraffu ar y Llywodraeth. Diolch.