5. 5. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:00, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon ac am y modd adeiladol y mae’r Aelodau ar draws y pleidiau wedi cymryd rhan ynddi at ei gilydd. Yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod mwy na chwarter ein poblogaeth dros 50 oed, a bydd hyn yn codi fwy na thraean dros y 20 mlynedd nesaf. Yn anochel, bydd ein poblogaeth sy’n heneiddio yn cynyddu’r galw ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Yn 2015-16, roedd dros hanner yr holl oedolion a dderbyniwyd i’r ysbyty yn gleifion dros 65 oed. Mae hynny’n cyfateb i dros 70 y cant o gyfanswm y dyddiau gwely yn ein gwasanaeth iechyd.

Dylai cyfnodau yn yr ysbyty, wrth gwrs, gael eu cadw mor fyr â phosib, ond yn yr achos hwn mae’n briodol gwneud sylwadau ar rai o’r pwyntiau a wnaed ynghylch oedi wrth drosglwyddo. Mae’r darlun sydd gennym yma yng Nghymru yn un sy’n gwella, yn hollol wahanol i Loegr, sydd â’r ffigurau uchaf—y ffigur uchaf ers iddynt ddechrau cadw cofnodion. Rwy’n falch o weld bod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yma yng Nghymru yn cydnabod yr her gyffredin yn y maes hwn, ac mae’n deg dweud nad yw hynny wedi bod yn wir bob tro. Mae lle i fod yn optimistaidd, yn ogystal â lle i drylwyredd a mwy o her i wella. Rydym yn cydnabod bod angen i ni sicrhau bod pobl hŷn yn gallu aros yn annibynnol, a chanolbwyntio ymdrechion ar sicrhau bod pobl yn dychwelyd i’w cartref gyda gofal a chymorth priodol.

Felly, mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda’i gilydd i wella canlyniadau a lles pobl hŷn. Ym mis Mawrth 2014 cyhoeddwyd ein fframwaith integredig ar gyfer pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Nawr, roedd hwnnw’n canolbwyntio ar sicrhau bod gwasanaethau gofal a chymorth integredig yn cael eu datblygu a’u darparu i bobl hŷn, yn enwedig pobl eiddil oedrannus.

Mae’r gronfa gofal canolraddol, a grybwyllwyd sawl gwaith yn y Siambr heddiw, wedi bod yn sbardun allweddol i integreiddio. Sefydlwyd y gronfa, fel y crybwyllwyd, mewn cytundeb cyllidebol blaenorol i wella gwasanaethau gofal a chymorth, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn, drwy weithio mewn partneriaeth ag iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, tai, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Eleni, mae dros £60 miliwn o gyllid wedi’i ddarparu, ac rydym wedi parhau gyda’r gronfa a’i bodolaeth, a dylai barhau i ariannu mentrau a fydd yn helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol, osgoi mynd i’r ysbyty’n ddiangen ac atal oedi cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Ceir enghreifftiau llwyddiannus ledled y wlad.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drawsnewidiol a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni, ac roeddwn yn falch o glywed cydnabyddiaeth i etifeddiaeth yr Aelod blaenorol dros Gastell-nedd a gyflwynodd y ddeddfwriaeth honno. Un o egwyddorion allweddol y fframwaith cyfreithiol newydd hwn yw’r angen am wasanaethau gofal a chymorth integredig a chynaliadwy. Nawr, er fy mod yn sicr fod pawb wedi darllen y rheoliadau o dan Ran 9 y Ddeddf, maent wedi sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol statudol. Bydd y rhain yn ysgogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau integredig effeithlon ac effeithiol. Nid ydynt am fod yn siopau siarad biwrocrataidd. Byddant yn rhan allweddol o wireddu partneriaethau a chyflwyno newid ar lawr gwlad.

Mae’r canllawiau statudol ategol yn nodi bod yn rhaid i’r byrddau partneriaeth rhanbarthol hyn—nid ‘byddant’ neu ‘gallant’, ond bod yn ‘rhaid’ iddynt—flaenoriaethu integreiddiad gwasanaethau mewn nifer o feysydd. Mae hynny’n cynnwys ffocws parhaus ar bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia.

Mae ail ran y cynnig yn ymwneud â niferoedd meddygon teulu, ac fel rhan o’r compact y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru i symud Cymru ymlaen, mae’r Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd sylfaenol ledled Cymru. Un o’r ymrwymiadau allweddol yw cyflwyno camau gweithredu er mwyn helpu i hyfforddi, recriwtio a chadw meddygon teulu, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig. Mae gennym fwy o feddygon teulu ar hyn o bryd nag erioed o’r blaen, wedi’u cyflogi mewn gwahanol ffyrdd, ond yng Nghymru, rydym hefyd yn llenwi mwy o’n lleoedd hyfforddi na Lloegr neu’r Alban. Ond gwyddom fod hyn yn dal i fod yn her, ac nid ydynt yn llenwi pob lle gwag. Mae’n her i’w hwynebu a mynd i’r afael â hi, nid ei hanwybyddu. Felly, byddwn yn parhau i wrando ar gynrychiolwyr y gweithlu ac eraill, wrth i ni symud y gwaith hwn yn ei flaen.

Gallaf hefyd gadarnhau, o ystyried y cwestiwn uniongyrchol, fy mod eisoes wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain, ac edrychaf ymlaen at berthynas waith adeiladol gyda hwy. Mewn gwirionedd, roeddent yn frwd eu cefnogaeth i’r mesurau y mae’r Llywodraeth yn dymuno eu rhoi ar waith. Eu her allweddol i ni yw cyflawni’r cynllun y maent yn cytuno ag ef.

Felly, byddwn yn parhau i roi sylw i bryderon ynglŷn â llwyth gwaith ac yn cefnogi datblygiad modelau gofal newydd. Mae angen i ni sicrhau hefyd ein bod yn recriwtio, hyfforddi a chadw gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill sy’n gallu cynorthwyo meddygon teulu. Enghreifftiau da o’r rhain yw fferyllwyr, nyrsys a therapyddion clinigol, er enghraifft ffisiotherapyddion, sy’n gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod anghenion pobl yn cael sylw priodol mewn lleoliadau cymunedol, gan osgoi’r angen i bobl fynd ar restrau aros orthopedig. Yr her yw pa mor gyson rydym yn rhannu’r arfer da hwnnw, ac rwy’n dal i fod eisiau sicrhau’r gwelliant hwn ar draws y system gyfan.

Mae rôl y meddyg teulu, wrth gwrs, yn hollbwysig, ac yn rôl arweiniol o fewn y trefniadau clwstwr newydd hynny, ond ceir cydnabyddiaeth ehangach fod yn rhaid i’w rôl esblygu er mwyn iddynt allu mynd ati yn y ffordd orau i ganolbwyntio ar gleifion gyda’r anghenion mwyaf cymhleth—fel y mae nifer o bobl wedi’i ddweud heddiw ac ar achlysuron eraill, er mwyn iddynt wneud yr hyn nad ellir ei wneud gan neb ond meddyg teulu, a darparu’r arweinyddiaeth honno yn y practis ac yng ngweithgarwch y clwstwr. Rwy’n arbennig o falch o weld y croeso cadarnhaol at ei gilydd y mae’r clystyrau wedi’i gael gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, a byddwn yn datblygu’r hyn a ddysgwyd dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Rwy’n disgwyl i wasanaethau symud tuag at ofal sylfaenol ac i adnoddau gael eu symud gyda hwy. Rydym yn cydnabod bod y broses o recriwtio meddygon teulu yn her, ac nid yw’n her sy’n gyfyngedig i Gymru. Bydd cynllun i fynd i’r afael â’r mater hwn yn cael ei ddatblygu yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon er mwyn cyflawni’r ymrwymiad a roddwyd gan y Prif Weinidog. Bydd y gwaith, wrth gwrs, yn cael ei ategu gan gronfa genedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol sy’n werth £40 miliwn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, arweiniodd hyn at welliannau mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys cynnydd yn nifer yr apwyntiadau meddygon teulu yn nes ymlaen yn y dydd.

Dylwn droi yn awr at y gwelliannau. Ni fyddwn yn cefnogi’r gwelliant cyntaf. Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) broses asesu gofal a chymorth i bawb, gan gynnwys pobl hŷn. Mae’r asesiad hwnnw’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar y canlyniadau personol y maent am eu cyflawni. Wrth wraidd y broses hon mae sgwrs gyda’r unigolyn i gytuno ar ffyrdd o’i helpu i gadw neu adennill ei annibyniaeth. Mae deall yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn a chytuno ar sut i gyflawni’r canlyniad hwnnw mewn modd llawer mwy cyson yn her wirioneddol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, neu o’i roi mewn ffordd arall, sut i weithio gydag unigolion yn hytrach na darparu ar eu cyfer yn unig.

Ni fyddwn ychwaith yn cefnogi gwelliant 2. Mae Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth eisoes yn rhoi camau ar waith i wella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys recriwtio a chadw meddygon teulu. Mae eisoes wedi datblygu ystod o atebion arloesol, a fydd yn gyfle dysgu ehangach i ardaloedd gwledig eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi symud gofal yn agosach at y cartref, drwy fentrau megis cynllun wardiau rhithwir, ac yn wir, gwaith ar y gwasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys i sicrhau y gall pobl gael eu trosglwyddo i’r lleoliad mwyaf priodol. Yma, hoffwn grybwyll y cynllun ar Ynys Môn y soniais amdano o’r blaen—y cynllun gofal estynedig sy’n cael ei ddarparu rhwng meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol, uwch-ymarferwyr nyrsio ac Ysbyty Gwynedd. Y gwelliannau a welais yn cael eu cyflwyno’n uniongyrchol yn y rhan honno o Gymru—mae gwersi yno ar gyfer gweddill y wlad.

Byddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 3. Rydym wrthi’n ystyried adolygiad Mike Shooter ar rôl y comisiynydd plant. Mae hwnnw’n cynnwys gwersi i ni ar rôl pob comisiynydd, gan gynnwys y comisiynydd pobl hŷn.

Ac yn olaf, byddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 4. Mae canolfannau adnoddau gofal sylfaenol modern wedi cymryd lle nifer o ysbytai cymuned a oedd wedi dyddio. Rydym yn cydnabod yr her sy’n ein hwynebu. Gwyddom nad allwn ddarparu’r un model gofal a gwella canlyniadau ar gyfer ein poblogaeth wrth i ni wynebu’r ddemograffeg newidiol sydd ohoni. Gyda’r Llywodraeth hon, bydd mwy o ffocws ar integreiddio, gyda gofal yn agosach at y cartref i atal a thrin problemau. Mae ein huchelgais yn glir: diwallu anghenion newidiol pobl ledled Cymru, er mwyn darparu gwasanaethau gwahanol ond gwell gyda gwell gofal a gwell canlyniadau. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl yn y Siambr a thu allan iddi i wneud yn union hynny.