Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 22 Mehefin 2016.
Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn dioddef o ddiffyg ymgysylltiad â’r gymuned. Mae’r diffyg ymgysylltu wedi arwain at ddifaterwch ymhlith pleidleiswyr a’r ganran isel a bleidleisiodd mewn etholiadau lleol olynol. Yn yr etholiad lleol diwethaf yn 2012, roedd cyfartaledd y ganran a bleidleisiodd o dan 39 y cant—gostyngiad o 4 y cant ers yr etholiad blaenorol yn 2008. Yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, nid oedd 88 y cant o bobl wedi cysylltu â’u cynghorwyr dros y 12 mis blaenorol. Yn fwy pryderus, roedd 59 y cant o ymatebwyr naill ai’n anghytuno neu’n anghytuno’n gryf â’r datganiad y gallent ddylanwadu ar benderfyniad sy’n effeithio ar eu hardal leol. Mae’r difaterwch hwn tuag at lywodraeth leol yn wahanol iawn i’r ymgyrchoedd cyhoeddus a’r protestiadau pan fydd asedau awdurdodau lleol yn wynebu bygythiad o gael eu cau.
Cafodd Llywodraeth Cymru gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon pan basiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae’n siomedig, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu’r agenda hawliau cymunedol yng Nghymru. Mae hawliau cymunedol yn ymwneud â grymuso cymunedau, er mwyn iddynt gael mwy o lais yn y materion sy’n bwysig iddynt. Trwy gyfres o fesurau, aeth y Ddeddf Lleoliaeth ati i sicrhau bod pŵer sylweddol yn trosglwyddo i bobl leol. Dau o’r mesurau hyn oedd yr hawl gymunedol i herio a hawl y gymuned i wneud cais.
Yn gyntaf, yr hawl gymunedol i herio, Weinidog. Efallai y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n wynebu cyfyngiadau cyllidebol yn ceisio lleddfu’r pwysau drwy ollwng gafael ar asedau megis canolfannau hamdden. Heb hawl gymunedol i herio, i ganiatáu i gymunedau ysgwyddo’r gwaith o redeg gwasanaethau, gallai’r asedau hyn gael eu colli am byth. Mae’r cynghorau gorau yng Nghymru yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd a gwell o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau lleol. Mae llawer yn cydnabod potensial mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n werth da am arian. Dylent weithio gyda’i gilydd i ddarparu’r gwasanaethau hyn.
Yn ail, yr hawl gymunedol i wneud cais. Mae pob cymuned yn gartref i adeiladau neu gyfleusterau sy’n chwarae rôl hanfodol mewn bywyd lleol. Mae’r rhain yn cynnwys canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, pyllau nofio, siopau pentref, marchnadoedd a thafarndai. Gall cau’r asedau hyn olygu bod y gymuned ar ei cholled. Yn aml mae grwpiau cymunedol angen mwy o amser i drefnu cais ac i godi arian na’r mentrau preifat a allai fod yn gwneud cais yn eu herbyn. Mae’r hawl gymunedol i wneud cais yn rhoi cyfle chwe wythnos i gymunedau fynegi diddordeb mewn prynu ased. Os ydynt yn gwneud hynny, mae cyfnod pellach o bedwar mis a hanner o gyfle i gymunedau allu cael amser i godi arian i brynu’r ased. Er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol, mae arnom angen rhestr o asedau o werth cymunedol wedi’i henwebu gan y cymunedau lleol eu hunain. Fodd bynnag, nid oes rhaid i gynghorau yng Nghymru gadw cofrestr o asedau o werth cymunedol ac nid oes rhaid iddynt drosglwyddo asedau cymunedol. Rwy’n credu y dylai’r hawliau hyn y mae Lloegr yn manteisio arnynt gael eu hymestyn i Gymru i wella’r broses bresennol o drosglwyddo asedau cymunedol a’r rhaglenni cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol.
Ddirprwy Lywydd, bydd caniatáu i gymunedau herio’r awdurdodau lleol hyn ynglŷn â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu neu adeiladau y maent yn berchen arnynt yn gwella cyfranogiad ac ymgysylltiad â’r gymuned yn fawr. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu’r agenda hawliau cymunedol ac yn gweithredu’r Ddeddf Lleoliaeth yn llawn yng Nghymru.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae yna un maes rwy’n cael trafferth ag ef yn rheolaidd yn fy swyddfa. Pan fydd pobl yn cysylltu â’r cyngor, mae yna bob amser alwad ffôn leol. Yng Nghasnewydd, mae’n 656656 i ganolfan alwadau. Fel arfer, bydd rhaid aros o leiaf 10 munud a gwrando ar gerddoriaeth ac yna, hanner yr amser, ni fyddwch yn cael eich cysylltu â’r person cywir sy’n rhaid i chi siarad â hwy. Hoffwn wybod faint o arian y mae’r cyngor lleol yn ei wneud gan bobl sy’n aros ar y ffôn pan fyddant yn ffonio’r cynghorau. Rwy’n credu y dylai cynghorau sylweddoli bod pobl dlawd yn ffonio ynglŷn â’u problemau—nid am y gost o aros i gyflwyno’u problemau i’r cynghorau. Rwy’n credu bod hwn yn faes lle mae cysylltedd rhwng y bobl a’r cynghorau hefyd yn brin yng Nghymru. Diolch.