Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 22 Mehefin 2016.
Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch. Fe symudaf yn syth i’r cyfnod pleidleisio.
Rwy’n galw’n gyntaf, felly, am bleidlais ar ddadl Plaid Cymru a’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 33, ymatal 4 ac 11 yn erbyn. Mae’r cynnig felly wedi ei dderbyn.