– Senedd Cymru am 6:17 pm ar 22 Mehefin 2016.
Rwy’n symud yn awr, felly, i’r ddadl fer. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn aros yn y Siambr ar gyfer y ddadl fer, os gwnewch chi adael yn dawel ac yn gyflym. Ac felly, rwy’n galw ar Julie Morgan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Julie Morgan.
Diolch. Diolch, Lywydd. Carwn ddweud ar ddechrau’r ddadl, fy mod wedi rhoi munud i Rhianon Passmore a munud i Joyce Watson ar ddiwedd fy araith. Teitl y ddadl a dewisais yw ‘Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE?’
Nawr, cyflwynais y ddadl hon cyn y digwyddiadau ofnadwy ddydd Iau diwethaf pan gafodd yr AS dros Batley a Spen, Jo Cox, ei lladd yn drasig yn ei hetholaeth. Rwy’n credu ei bod yn briodol i ni edrych ar y dylanwadau ar y farn gyhoeddus yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm yfory. Yn anffodus, rwy’n meddwl bod marwolaeth Jo wedi cael dylanwad ar y ddadl dros y penwythnos ac i mewn i’r wythnos hon. Roedd hi’n iawn ac yn briodol fod toriad wedi bod yn yr ymgyrchu dros y penwythnos, ond erbyn hyn rydym yn ôl wrthi’n go ffyrnig, fel y dangosodd y ddadl flaenorol, ond efallai fod yna dôn ychydig yn wahanol iddo ledled y DU.
Felly, rwy’n gobeithio, yng ngoleuni’r math o berson oedd Jo a’r hyn a ddywedodd ei gŵr, Brendan Cox, yn dilyn ei marwolaeth drasig, y byddai hi’n hapus ac yn awyddus i ni barhau â’r ddadl ar refferendwm yr UE a’r frwydr i aros yn yr UE oherwydd roedd hi, fel y dywedodd ei gŵr, yn cefnogi’r UE yn frwd ac yn ymgyrchu dros bleidlais ‘aros’. Felly, Lywydd, hoffwn ddweud ychydig am Jo, yn bersonol, a chysylltu ei chredoau wedyn â’r bleidlais y byddwn yn ei chael yfory.
Heddiw fyddai pen-blwydd Jo yn 42 oed, a chynhelir digwyddiadau ar draws y byd i gofio amdani. Roedd digwyddiadau yn Efrog Newydd, Brwsel, Buenos Aires, Dulyn, Llundain, a bydd teyrnged iddi yng Ngŵyl Glastonbury hyd yn oed. Mae yna wylnos golau cannwyll hefyd mewn elusen i fenywod yn Syria am fod Jo’n frwd ei chefnogaeth i hawliau menywod. Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael y digwyddiad trawsbleidiol i fenywod sy’n Aelodau o’r Cynulliad ar risiau’r Senedd ddoe, pan dynnwyd sylw at yr hyn y mae’r UE wedi’i wneud i fenywod oherwydd, fel y dywedais, credai Jo fod yr UE yn cyflawni ar gyfer menywod. A chynhelir digwyddiad ychydig i fyny’r ffordd yn awr—neu mae eisoes wedi digwydd—yn y Deml Heddwch ac Iechyd yma yng Nghaerdydd, yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ar y thema ‘Beth allwn ni ei wneud?’
Nid oeddwn yn adnabod Jo Cox, ond rwy’n teimlo fy mod yn ei hadnabod, ac fel y dywedodd un o fy nghydweithwyr yn ddiweddar, hoffwn pe bawn i wedi ei hadnabod. Rwy’n uniaethu â hi fel gwleidydd benywaidd ac fel mam, ac yn arbennig, gallaf ddychmygu’r cyffro a deimlodd, mae’n rhaid, wrth gyrraedd San Steffan ychydig dros flwyddyn yn ôl, ar ôl yr etholiad cyffredinol yn 2015. Gallaf gofio’r teimlad hwnnw pan gefais fy ethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn 1997. Rwy’n meddwl ein bod i gyd wedi’i deimlo, gwta chwe wythnos yn ôl, pan gawsom oll y wefr o gael ein hethol a dod i’r Siambr hon gyda’n cynlluniau i newid y byd. Mae dwyster yr hyn sydd wedi digwydd i’r holl obeithion hynny ac iddi hi fel unigolyn, rwy’n meddwl, yn fy nharo mor gryf, ond rwy’n credu mai’r pethau roedd hi’n credu ynddynt yw’r hyn sy’n rhaid i ni barhau â hwy.
Rhaid i mi ddweud, cefais fy nharo yn arbennig, wrth wrando ar yr ASau benywaidd presennol yn siarad am fod yn y Tŷ Cyffredin gyda Jo a sut roeddent i gyd yn arfer siarad am eu pryderon, ynglŷn â sut y maent yn sicrhau cydbwysedd yn eu bywyd teuluol, yn edrych ar ôl eu plant a gwneud gwleidyddiaeth, a’r euogrwydd mamol y mae hyn yn ei gynhyrchu, euogrwydd y mae llawer ohonom wedi’i deimlo. Mae’r drafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin, yn y ffordd honno, yn taro tant gyda llawer ohonom. Yr hyn a ddaeth yn amlwg o’r darllediadau am fywyd Jo yw cymaint roedd hi’n caru ei theulu, ond roedd hi’n caru ei gwleidyddiaeth yn ogystal, ac nid oeddent yn gwrthdaro. Roedd yn ymgyrchydd brwd, ac roedd hi’n llawn o dosturi. Ymgyrchodd dros hawliau dynol, datblygu rhyngwladol, sefyllfa ffoaduriaid, sefyllfa pobl amddifad, a’i chefndir yn gweithio mewn sefydliadau anllywodraethol sy’n ymgyrchu, fel Oxfam. Wrth gwrs, rydym eisoes wedi clywed llawer am ei gallu i weithio ar sail drawsbleidiol, a dywedodd yr AS Ceidwadol Andrew Mitchell fod Jo yn fenyw wirioneddol eithriadol y mae ei daioni a’i hymroddiad angerddol i werthoedd dyngarol wedi ysbrydoli pawb ohonom.
Dywedodd gŵr Jo, Brendan, ei bod hi, cyn iddi farw, yn gynyddol bryderus am dôn y ddadl yn ymgyrch refferendwm yr UE, ac rwy’n meddwl bod y teimladau hynny wedi cael eu hadlewyrchu yma y prynhawn yma yn y ddadl rydym eisoes wedi’i chael. Bedwar diwrnod cyn iddi gael ei lladd, ysgrifennodd Jo Cox erthygl yn rhybuddio yn erbyn y sbin ynglŷn â mewnfudo yn y ddadl ar yr UE. Ysgrifennodd
Ni allwn ganiatáu i bleidleiswyr gredu’r sbin mai pleidlais i adael yw’r unig ffordd o ymdrin â phryderon am fewnfudo.
Yn dilyn ei marwolaeth, yn ei deyrnged iddi yn Nhŷ’r Cyffredin, rhybuddiodd Stephen Kinnock fod ‘canlyniadau i rethreg’, a chredaf ei bod yn bwysig iawn i ni gofio hynny. Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn pan fyddwn yn sôn am faterion sensitif megis mewnfudo, gan fod canlyniadau i rethreg. Cyfeiriodd at y poster y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato’n gynharach heddiw a dywedodd y byddai Jo Cox wedi ffieiddio pe bai hi wedi byw i weld poster UKIP, a oedd yn dangos torf o ffoaduriaid yn dianc rhag y rhyfel cartref yn Syria fel ffordd o roi hwb i’r gefnogaeth i’r rhai sydd am adael y DU, ac:
Ni allaf ond dychmygu ymateb Jo pe bai wedi gweld y poster a gafodd ei ddadorchuddio oriau cyn ei marwolaeth—poster ar strydoedd Prydain a oedd yn pardduo cannoedd o ffoaduriaid diobaith, gan gynnwys plant newynog ac ofnus yn dianc rhag arswyd ISIS a bomiau Rwsia. Byddai wedi ymateb gyda dicter, ac wedi gwrthod yn gadarn y naratif bwriadol o sinigiaeth, ymraniad ac anobaith.
Ac rwy’n credu mai dyna yw’r dôn y mae’r refferendwm hwn wedi’i hannog, oherwydd mae mewnfudo wedi bod yn thema sydd wedi rhedeg drwy ymgyrch y refferendwm. Mae wedi cael sylw enfawr yn y papurau newydd, ar-lein ac yn y cyfryngau darlledu. Rwy’n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi gweld y ddadl neithiwr ac fel y dywedodd Sadiq Khan yn nadl y refferendwm neithiwr, wrth yr ymgyrch dros adael, mewn perthynas â mewnfudo,
Nid prosiect ofn yw eich ymgyrch wedi bod, ond prosiect casineb.
Rwyf wedi bod allan yn ymgyrchu yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, a phan fyddaf yn siarad â phobl, rwy’n credu nad oes yna amheuaeth o gwbl fod tôn y ddadl wedi dylanwadu, ac yn dylanwadu ar farn pobl ynglŷn â mewnfudo. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn, pan fyddwn yn sôn am fewnfudo, pan fyddwn yn sôn am fewnfudwyr ac ymfudwyr, dylem feddwl am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl sy’n fewnfudwyr, sy’n ymfudwyr, sy’n byw yn y wlad hon. Beth yw eu barn am y ddadl hon? Beth yw eu hymateb? Nid oes amheuaeth o gwbl fod hyn yn effeithio ar bobl yn y sefyllfa honno. Maent yn teimlo nad oes neb eu heisiau yma. Mae pobl wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod yn ddinasyddion eilradd, ac rwy’n credu ei bod yn hollol warthus fod bodau dynol yn ein gwlad yn cael eu gwneud i deimlo fel hyn. Credaf ei bod yn bosibl cael dadl am fewnfudo, dadl iawn, gytbwys, ond nid yn y dôn y mae’r ddadl hon wedi’i fframio. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddichellgar, ac rwy’n credu ei bod wedi dylanwadu ar bobl pan fyddant yn ystyried sut y maent yn mynd i bleidleisio.
Hefyd, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael dadl sy’n seiliedig ar ffeithiau, a gwyddom fod y ffigurau sy’n cael eu rhoi, a thôn y ddadl, wedi’i gorliwio’n helaeth. Yn ôl ffigurau o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, 5.8 y cant yn unig yw canran y dinasyddion a aned y tu allan i’r DU yng Nghymru, ac mae canran yr ymfudwyr o oedran gweithio yng Nghymru yn 8 y cant o’r boblogaeth. Mae hynny’n cynnwys ceiswyr lloches, ffoaduriaid, 25,000 o fyfyrwyr rhyngwladol—a gwyddom cymaint rydym am annog myfyrwyr rhyngwladol yma—ac wrth gwrs, ymfudwyr sy’n gwneud gwaith sgiliau uwch a gwaith heb sgiliau. Gwyddom fod gweithwyr mudol yn debygol o fod yn iau, maent yn fwy tebygol o fod wedi’u haddysgu’n well, ac maent yn fwy tebygol o fod yn gyflogedig na’r boblogaeth a aned yn y DU. Rwy’n meddwl bod y ffigurau hynny’n dangos cyfraniad enfawr ymfudwyr i Gymru ac i’r DU.
Mae miloedd o ymfudwyr yn gweithio yn y GIG. Mae miloedd o ymfudwyr yn gweithio yn y diwydiant gofal. Beth pe baent i gyd yn penderfynu mynd adref am eu bod wedi cael llond bol ar y ffordd y cânt eu trin yn y wlad hon, am eu bod yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd? Wrth gwrs, ar draws y DU, mewnfudwyr o’r UE yw 10 y cant o feddygon cofrestredig, a gwyddom pa mor anodd yw hi i gael meddygon. Beth sy’n mynd i ddigwydd os ydynt yn penderfynu eu bod eisiau mynd adref? Hefyd, pam ddylai ymfudwyr sy’n byw yma gael y bai am unrhyw ddiffygion ym maes tai neu ysbytai neu ysgolion? Oherwydd dyna beth y mae pobl wedi’i lyncu o’r propaganda dichellgar hwn—maent yn dweud, ‘Maent yn cymryd ein tai; maent yn cymryd ein lleoedd mewn ysgolion.’ Rydym wedi gweld cyfnod estynedig o galedi gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, sydd wedi golygu ei bod yn anochel y gwelwn fwy o doriadau eto i wasanaethau awdurdodau lleol, ond nid yw’n fai ar ymfudwyr os nad oes digon o dai cyngor i’w cael, neu os yw llyfrgell leol yn cau. Mae hynny yn nwylo’r Llywodraeth—ein Llywodraethau ni yma yn y DU.
Mae’r dadleuon eraill sydd wedi cael eu gwyntyllu’n gadarn iawn yma y prynhawn yma yn ymwneud â sofraniaeth—y syniad y dylem adfer ein rheolaeth ar ein ffiniau, a ninnau eisoes yn gwybod nad ydym yn rhan o gytundeb Schengen, felly mae gennym reolaeth dros ein ffiniau—a hefyd y syniad fod swyddogion anetholedig yn yr UE yn gwneud polisi yma yn y DU, sy’n hollol anghywir, oherwydd ni all unrhyw beth basio oni bai ei fod wedi’i gytuno gan Gyngor y Gweinidogion, a gaiff eu hethol. Mae’n chwerthinllyd fod gwlad sy’n dal i feddu ar Dŷ’r Arglwyddi yn meddwl bod yr Undeb Ewropeaidd yn fiwrocrataidd ac yn anetholedig, oherwydd, mewn gwirionedd, rwy’n meddwl bod y rhan fwyaf o’r gwledydd eraill yn meddwl ei fod yn hollol anhygoel fod gennym Dŷ’r Arglwyddi yma.
Felly, o ran gwaith a’r syniad fod mewnfudwyr yn mynd â swyddi pobl, dyma chwedl arall eto sydd wedi’i pharhau’n ddiddiwedd. Mae mwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru yn awr nag ar unrhyw adeg arall, ac mae mwy o bobl a aned yn y DU yn gweithio yn awr nag erioed. Mae hynny’n wir am Gymru a’r DU. Mae ymfudwyr yn rhan o’r llwyddiant economaidd. Felly, mae’r syniad hwn fod ymfudwyr a mewnfudwyr yn mynd â swyddi yn nonsens, ac rwy’n gobeithio, pan fydd pobl yn pleidleisio yfory, y byddant yn ystyried y ffeithiau pwysig hyn ac na chânt eu dylanwadu gan y sbin dichellgar sydd wedi’i roi ar yr holl ffeithiau hyn, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod rhaniad yn y wlad—rhaniad yn y ffordd y mae pobl yn mynd i bleidleisio. Beth bynnag fydd y canlyniad, rydym yn mynd i gael gwaith adfer cydlyniant cymunedol yn fy marn i. Ond rwy’n gobeithio y bydd pobl, wrth iddynt bleidleisio, yn meddwl am eu plant a’u hwyrion, fel y dywedwyd y prynhawn yma yn y ddadl, ac am obeithion a chyfleoedd ar gyfer eu plant a’u hwyrion, ac yn meddwl hefyd am y cyfraniad enfawr—y cyfraniad economaidd, y cyfraniad diwylliannol—y mae pob person sy’n byw yma yn ein gwlad, yng Nghymru, yn ei gyfrannu. Pan fyddwn yn dweud pethau, gadewch i ni gofio hynny.
Diolch, Lywydd. Gyda thristwch mawr rwyf finnau hefyd yn siarad yma heddiw am ddylanwadau ar y farn gyhoeddus. Y drasiedi yma yw bod hyn wedi bod yn rhagweladwy o ran y newid ar draws y cyfryngau yn arbennig o ran y papurau newydd tabloid sydd wedi tanio’r hiliaeth ddichellgar hon yn wir—gadewch i ni ei alw yr hyn ydyw. Rwy’n teimlo’n drist iawn, o ganlyniad i’r math hwn o gamwybodaeth, o ganlyniad i’r methiant i drosglwyddo ffeithiau’n effeithiol ynglŷn â mewnfudo, fod barn arbenigol bron bob corff economaidd y gwyddys amdano wedi cael ei diystyru o blaid ras ddichellgar i gyrraedd y gwter ar ran y blaid gyferbyn, nad yw hyd yn oed wedi trafferthu dod i’r ddadl fer hon heno neu’r prynhawn yma a dweud y gwir—. Yn bersonol, rwy’n teimlo ei bod yn drueni mawr fod hyn wedi cyfrannu at gynyddu rhaniadau yn ein cymdeithas, at ddiffyg cydlyniad cynyddol yn ein cymdeithas, a’r cynnydd mewn casineb hiliol sydd bellach wedi’i brofi gan y data mewn gwirionedd o ran yr hyn sy’n dod drwodd.
Mae’r lluniau di-chwaeth y cyfeiriodd sawl un atynt heddiw yn dal i fod allan yno; nid ydynt wedi cael eu tynnu’n ôl hyd y gwn. Gwn fod Unsain yn rhoi camau ar waith gyda’r heddlu metropolitanaidd mewn perthynas ag ysgogi casineb hiliol, ond yr hyn sy’n drasiedi yn fy meddwl i yw bod hyn mewn gwirionedd yn eithaf normal ac mae wedi cael ei normaleiddio. Mae tôn y ddadl hon wedi cyrraedd lle mor ofnadwy fel ein bod yma mewn gwirionedd yn y fan hon yn sôn am luniau o ffoaduriaid yn cael eu defnyddio fel porthiant gwleidyddol, fel y gallwn dargedu barn mewn gwirionedd yn seiliedig ar ffeithiau ffug ynglŷn â mewnfudo a dadl ffug ynglŷn â beth y mae hyn i gyd yn ymwneud ag ef.
Mae angen i chi ddod â’ch geiriau i ben.
Iawn, diolch. Felly, yn lle porthi’r materion hyn sy’n ymwneud â mewnfudo ac anwybyddu’r ffeithiau, y cyfan y byddwn yn ei ddweud, i orffen fy sylwadau yw hyn: er mwyn anrhydeddu’r cof am Jo Leadbeater—Jo Cox—a oedd yn sefyll dros driniaeth gyfartal ac achosion dyngarol, cymorth i ffoaduriaid a chyfryngau teg, mae’n rhaid i ni ddewis cydweithio a gweithio o fewn yr UE, nid y tu allan iddo. I ddefnyddio ei geiriau, rydym i gyd yn llawer gwell pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd na phan fyddwn yn rhanedig ar wahân, ac rwy’n credu bod hwn yn ddatganiad addas i ni ei ystyried ac i Gymru ei ystyried wrth i ni fynd ati i bleidleisio yfory.
Diolch i Julie Morgan, yn gyntaf, am gyflwyno’r ddadl hon ac yn ail, am roi munud i mi, a cheisiaf gadw ati. Rwyf fi, fel yr holl gyd-Aelodau sy’n bresennol yn awr, eisiau talu teyrnged i Jo Cox. Cawsom i gyd ein syfrdanu gan yr hyn a ddigwyddodd, ond rydym hefyd, rwy’n gobeithio, wedi cael ein hysbrydoli gan yr hyn a adawodd ar ôl, ac rydym yn awyddus i gymryd yr hyn y credai ynddo a’r hyn y mae hi, gobeithio, wedi’i adael ar ôl fel nod, fel catalydd ar gyfer newid mewn trafodaethau gwleidyddol yn y dyfodol.
Nid oes amheuaeth nad yw’r drafodaeth wleidyddol wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn ymgyrch y refferendwm hwn, ond mae newid wedi digwydd. Y tristwch yw bod rhywun wedi gorfod marw er mwyn i’r newid hwnnw ddigwydd. Rwy’n credu—ac rwy’n siŵr fod pawb arall yma hefyd yn credu—mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud, beth bynnag fo’r canlyniad yfory, yw symud ymlaen i ddathlu’r amrywiaeth y mae’r gwahanol ddiwylliannau ac unigolion yn eu cyfrannu i’n cymdeithas. Mae’n rhaid i ni wneud addewid yma, heddiw, ar yr hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd Jo, i beidio byth â hybu rhaniadau ac ofn, ond i uno gyda’n gilydd a symud ymlaen mewn gobaith a chariad.
Galwaf nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i aros a chlywed y ddadl fer hon. Roeddwn i’n meddwl bod cyfraniad Julie Morgan yn gwbl nodweddiadol feddylgar am y materion sy’n codi ac yn ymrwymedig i ddod o hyd i atebion ar gyfer y bobl sydd fwyaf o’u hangen.
Dechreuodd drwy sôn am fywyd Jo Cox, ac nid wyf yn credu bod unrhyw beth y gallwn ei ddweud a fyddai’n ychwanegu at y teyrngedau a roddwyd ddoe, ac eto yn y ddadl fer, i’w bywyd. Roeddwn i’n meddwl mai’r hyn y byddwn yn ei wneud yw meddwl, am funud neu ddau, am yr achosion y mae’r arian sydd wedi llifo i mewn yn dilyn ei marwolaeth—yr achosion y rhoddir yr arian hwnnw tuag atynt. Oherwydd mae’r arian hwnnw’n ffordd ddigymell y mae pobl sydd wedi’u cyffwrdd cymaint gan yr hyn a ddigwyddodd ac sy’n ei chael yn anodd gwybod beth y gallent ei wneud i ddweud unrhyw beth am eu hymateb iddo—mae cyfrannu ychydig o arian yn un ffordd y mae pobl yn teimlo y gallant wneud rhywbeth ymarferol, a cheir tri achos, fel y bydd pobl yn gwybod, y mae ei theulu eithriadol wedi penderfynu rhoi’r arian hwnnw tuag atynt.
Y cyntaf yw helpu gwirfoddolwyr i frwydro yn erbyn unigrwydd yn ei hetholaeth. Nawr cawsom ein hannog yn gynharach y prynhawn yma i wrando ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym ar garreg y drws. A phan fyddwn yn cwestiynu, fel y mae’n rhaid i ni, pam fod cymaint o bobl a fyddai mewn ffyrdd eraill yn rhannu llawer o bethau eraill y credwn eu bod yn bwysig yn bwriadu pleidleisio mewn ffordd wahanol i’r un y byddem yn ei obeithio yfory, yna—rwy’n meddwl, wrth i mi fynd o gwmpas yn curo drysau yn fy etholaeth ym mis Mawrth a mis Ebrill, po fwyaf y bydd pobl wedi’u gwahanu oddi wrth fywyd gweddill y gymuned o’u cwmpas, y mwyaf y maent yn teimlo nad oes ganddynt gysylltiad â phethau cyffredin a phrif ffrwd, yna’r mwyaf y bydd bobl yn debygol o ofyn i chi am y refferendwm a’r mwyaf tebygol y byddent o ddweud wrthych eu bod yn mynd i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
Y clymau cymdeithasol sy’n ein cysylltu yn ein cymunedau yw’r un clymau cymdeithasol sy’n ein galluogi i deimlo’n hyderus i fod yn rhan o gymunedau, hyd yn oed y tu hwnt i’n rhai ni ein hunain. Mae’r gwaith y bydd yr arian yn ei wneud i helpu i wrthsefyll unigrwydd yn rhan o’r gwaith ar bwytho’r gwead cymdeithasol yn ôl at ei gilydd ar gyfer pobl sydd wedi’u datgysylltu oddi wrth gymdeithas gan effaith caledi, ond hefyd, ar gyfer pobl y soniodd Julie amdanynt sy’n dod i fyw yn ein cymdeithas ac sy’n aml yn ei chael yn anodd yn bennaf oll i deimlo bod croeso iddynt a bod ganddynt gysylltiadau y gallant adeiladu arnynt i greu dyfodol iddynt eu hunain ymhlith y gweddill ohonom, a bydd yr arian hwnnw’n eu helpu hwythau hefyd. A bydd yn eu helpu mewn ffordd y mae’r ail sefydliad y bydd yr arian hwnnw’n ei helpu yn ei esbonio’n dda iawn yn wir, oherwydd bydd yr arian yn mynd i HOPE not hate.
Fel y clywsom yn y Siambr hon y prynhawn yma, mae’n wir fod rhai o’r rheini sydd wedi ceisio perswadio pobl eraill i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn apelio at ofn a chasineb. Ni allwn greu dyfodol y byddem am ei weld i ni ein hunain neu’r rhai sy’n annwyl i ni yn seiliedig ar y ffordd honno o feddwl. Mae i deulu sydd wedi dioddef canlyniad yr hyn y gall casineb ei wneud yn uniongyrchol roi arian tuag at obaith, a gobaith ar gyfer y dyfodol, rwy’n meddwl bod hwnnw’n benderfyniad hollol eithriadol, ac mae’n cysylltu’r ffordd y mae pobl sy’n teimlo ar wahân i gymdeithas, ac felly’n agored i apêl fod yna ateb hawdd sy’n cynnwys beio rhywun arall am y trafferthion y maent ynddynt eu hunain yn—. Rwy’n credu bod dweud mai’r hyn sy’n rhaid i ni ei gynnig i’r bobl hynny yw gobaith iddynt eu hunain a’u cymunedau yn hytrach na chasineb tuag bobl eraill yn deyrnged wirioneddol i’w bywyd a’r hyn y mae wedi’i olygu.
Y trydydd sefydliad yw sefydliad White Helmets, sefydliad sy’n gweithredu, nid yn y wlad hon, heb sôn am ei hetholaeth, ond yn hytrach yn Syria—sefydliad sydd wedi achub 51,000 o fywydau pobl a gaethiwyd dan y rwbel sy’n deillio o fod dan fygythiad gwirioneddol o farwolaeth ac aflonyddwch. A’r trydydd ymdeimlad hwnnw o fod wedi’ch cysylltu, nid yn unig â bywyd pobl yn y gymuned sydd o’ch cwmpas, ond y ffordd y gall y gymuned honno fod wedi’i chysylltu at fywydau pobl sy’n dioddef pethau na allwn eu dychmygu bron, rwy’n meddwl mai dyna’r drydedd deyrnged hynod i’w bywyd, ond nid yn unig i’w bywyd hi, ond i’r pethau roedd hi’n eu hystyried yn bwysig yn ei bywyd, ac y byddai cymaint o bobl yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn uniaethu mor gryf â hwy.
Nawr, aeth Julie ymlaen i wneud ei chysylltiadau ei hun rhwng bywyd Jo Cox a’r penderfyniad sy’n mynd i gael ei wneud yn y wlad hon yfory. Yn ddiamau, mae’r cyhoedd wedi bod yn agored i amrywiaeth enfawr o wybodaeth yn ystod ymgyrch y refferendwm, a chymaint ohono’n hynod negyddol. Ond mae’r achos y byddem yn ei wneud, yr achos y byddai Llywodraeth Cymru am ei wneud, ac y byddai pobl eraill yn y Siambr hon yn dymuno ei wneud dros ddyfodol sy’n ein cynnwys yn yr Undeb Ewropeaidd yn un sy’n gyfan gwbl gadarnhaol. Mae bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Gymru yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.
Pan fyddwn yn meddwl am yr hyn a wyddom ynglŷn â sut y bydd pobl yn pleidleisio yfory, yna, yn ogystal â gwahaniaeth rhwng y bobl hynny sy’n teimlo’u bod wedi’u hynysu ac wedi’u torri i ffwrdd oddi wrth y bobl sy’n gallu byw bywydau cysylltiedig, bydd yna wahaniaeth, cyn belled ag y gallwn ddweud, rhwng penderfyniadau pobl hŷn, sy’n fwy tebygol o deimlo eu bod yn bell oddi wrth fywyd y gymuned, a sut y bydd pobl ifanc yn pleidleisio. Mae dyfodol yr Undeb Ewropeaidd i bobl ifanc yng Nghymru yn ymddangos i mi yn gwbl hanfodol o ran ei gwneud yn glir ein bod yn genedl yn y brif ffrwd yn Ewrop lle y gall ein pobl ifanc weithio, byw ac astudio mewn gwladwriaethau Ewropeaidd eraill, a gallu mynd, gallu mynd â chyfoeth y diwylliant sydd gennym yma yng Nghymru a dychwelyd i Gymru wedi’u cyfoethogi ymhellach gan y cyfleoedd y byddant wedi’u cael. Credaf mai’r ymdeimlad cadarnhaol hwnnw o beth yw bod yn Ewropead a ddylai fod wrth wraidd ein neges i bobl a pham rydym am iddynt bleidleisio yfory er mwyn i Gymru barhau i fod yn gysylltiedig mewn Undeb Ewropeaidd sy’n hanfodol i ffyniant presennol Cymru a’u ffyniant yn y dyfodol, sy’n hyrwyddo ac yn diogelu ein busnesau, addysg ein plant, ein hamgylchedd a’r gwasanaethau rydym yn dibynnu arnynt, sy’n amddiffyn hawliau ein gweithwyr, sy’n glir nad yw difrod amgylcheddol yn dod i ben gyda ffiniau gwledydd ac na ellir gwneud cynnydd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd er enghraifft, oni bai bod gwledydd yn gweithio gyda’i gilydd—Ewrop sy’n helpu i’n cadw’n fwy diogel ar adeg pan fo pawb yn teimlo ofnau dealladwy ynglŷn â diogelwch, Ewrop sy’n gweithredu gyda’i gilydd i fynd i’r afael â heriau mawr ein hoes ac sy’n gweithredu’n gadarnhaol i roi dyfodol i’n plant a’n cenedl o’r math y bydd y tri sefydliad y mae’r arian a godir er cof am Jo Cox yn ei wneud yn ei rhan hi o’r byd ac ar draws y byd yn gyfan. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet, a daw hynny â’n trafodion ni heddiw i ben.