1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2016.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar daliadau’r Cynllun Taliad Sylfaenol i ffermwyr? OAQ(5)0083(FM)
Mae dros 99 y cant o fusnesau fferm cymwys wedi cael eu talu.
Diolch. Mae’n rhaid i mi godi’r cwestiwn hwn, a dweud y gwir, yn sgil fy mhryderon dwys fy hun am y ffordd y mae taliadau sylfaenol sy'n dal heb eu talu i'n ffermwyr wedi eu trin, a phroses eich adran Llywodraeth eich hun. Cyflwynodd dwy fil ar bymtheg a chwe deg a thri o ffermwyr eu ceisiadau ym mis Mehefin 2015, ond 12 mis yn ddiweddarach, mae tua 171 yn dal i fod heb gael unrhyw daliad. Yn wir, yn Aberconwy, rwyf wedi cynrychioli ffermwyr sydd wedi aros sawl mis am daliad heb unrhyw gydnabyddiaeth o’u cais, a llawer yr addawyd iddynt eu bod wedi cael eu talu, pan, mewn gwirionedd, nad ydynt—roedd un am £60,000. Brif Weinidog, mae oedi mor hir yn rhoi bywoliaeth ffermwyr mewn perygl yn awr. Mae taliadau nad ydynt wedi eu gwneud yn achosi straen a rhwystredigaeth aruthrol. Brif Weinidog, a wnewch chi edrych i mewn i drefn eich adran Llywodraeth eich hun yn hyn o beth, er mwyn sicrhau nad yw ein ffermwyr gweithgar a cheidwaid ein cefn gwlad yn wynebu chwalfa ariannol posibl oherwydd oediadau eich adran Llywodraeth eich hun?
Ailadroddaf eto yr ateb a roddais i'r cwestiwn gwreiddiol: mae dros 99 y cant o fusnesau fferm cymwys wedi cael eu talu—wedi cael taliad o’r cynllun taliadau sylfaenol. Os oes ffermydd unigol lle ceir anawsterau, y peth iawn i'w wneud yw codi’r anawsterau hynny gyda'r Gweinidog, fel y gellir eu hystyried ar ran yr unigolion hynny. Ond rydym ni’n perfformio'n well na Lloegr a'r Alban yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn pan ddaw i dalu ein ffermwyr.
Mae’n siŵr, Brif Weinidog, eich bod chithau, fel finnau, yn gresynu ac yn difaru bod siẁd gymaint o ffermwyr wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid oes dim dwywaith eu bod nhw wedi gwneud hynny. Un o’r rhesymau y gwnaethon nhw ei ddweud wrtha i eu bod nhw’n ystyried hynny pan oeddwn i’n trafod gyda nhw oedd nid bod y taliadau’n hwyr, ond bod cosbau a dirwyon yn dilyn mân anghytuno neu gamgymeriadau fel oedd yn cael eu gweld gan y gweision sifil yn yr hawliadau ar gyfer y taliadau hyn. Nawr, rydych chi wedi colli lot o ffydd ymysg y ffermwyr drwy fynnu’r cosbau hynny, pan oedd Phil Hogan a’r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud bod modd bod yn hyblyg. Er bod y dŵr o dan y bont bellach, a oes modd adfer enw da Llywodraeth Cymru ymysg rhai ffermwyr o leiaf, drwy ailedrych ar y sefyllfa lle mae cosbau yn dilyn beth sydd i fod yn drafodaeth rhyngoch chithau fel Llywodraeth a ffermwyr dros eu taliadau?
A gaf ofyn i’r Aelod i ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion? Ond, rydym wedi bod yn dilyn y rheolau sydd yna ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, fel ddywedais i’n gynharach, rydym wedi bod yn talu ffermwyr yn glou—lot yn gyflymach na beth sy’n iawn yn Lloegr a’r Alban. Ond ynglŷn â’r manylion am ffermydd unigol, byddwn i’n falch o gael llythyr er mwyn gallu ystyried beth yn gwmws sydd wedi digwydd.