<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:50, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, nid wyf yn disgwyl i chi groesawu canlyniad y refferendwm ddydd Iau diwethaf gyda chymaint o frwdfrydedd ag y gwnes i, ond pleidleisiodd Cymru yn bendant dros adael yr UE, ac yn wir pleidleisiodd fwyafrif ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r Rhondda i adael yr UE, ond roedd sefydliad gwleidyddol Cymru—Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol—yn unffurf o blaid aros, ac roedd holl ACau y pleidiau hynny yn y lle hwn o blaid aros. Yr hyn rwy’n awyddus i’w wneud nawr yw edrych ymlaen at y dyfodol, ac ailadroddaf yr hyn a ddywedasoch funud yn ôl, bod UKIP yn credu y dylai pob un bunt y mae’r UE yn ei wario o arian trethdalwyr Prydain yng Nghymru ar hyn o bryd ddod i Lywodraeth Cymru i gael ei gwario yma. Felly, byddwn yn rhoi pob cefnogaeth posibl i chi yn yr ymdrech hon. Oni fyddai'n well, felly, yn yr ysbryd o gydweithredu y gwnaethoch gychwyn eich gweinyddiaeth yn y Cynulliad hwn, i gynnwys arweinydd y Ceidwadwyr a minnau yn y broses o ddadlau’r achos dros Gymru gyda Llywodraeth y DU, gan y byddai’n cael ei gryfhau gyda lleisiau ychwanegol y rhai a oedd mewn gwirionedd o blaid y canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru drosto?