<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, fy ymateb—. Hynny yw, mae’n iawn; dyna ni, gwelsom y canlyniad. Mae fy ymateb i yr un fath ag ymateb ei blaid ef yn 2011 i'n refferendwm yng Nghymru, pan gollwyd hwnnw gan eich plaid chi. Ond mae'n rhaid i ni ei dderbyn. Dyna ni. Symudwn ymlaen nawr gyda thirlun gwleidyddol newydd. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog. Rwy’n disgwyl cael ymateb. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio dros Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r ymateb hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y pleidiau’n deall eu swyddogaethau wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau, oherwydd yr hyn na allwn ni ei wneud yw bod mewn sefyllfa lle mae cytundeb masnach ar y bwrdd heb unrhyw fewnbwn gan Gymru. Byddai hynny'n gwbl annemocrataidd a pheryglus, yn fy marn i, o ran y ffordd y mae pobl yn gweld y DU. Felly, rwy’n berffaith fodlon i weithio ar y ffordd ymlaen, a bydd y tîm y byddwn yn ei sefydlu ym Mrwsel yn ein helpu i wneud hynny.