Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 28 Mehefin 2016.
Brif Weinidog, y datblygiad mwyaf cyffrous yn y driniaeth o ganser yn ddiweddar fu datblygu meddyginiaethau haenedig, lle mae triniaeth yn cael ei theilwra’n benodol i'r claf yn seiliedig ar gyfansoddiad genetig ei ganser penodol. Roeddwn i’n bryderus iawn o glywed, yng Nghymru, ein bod yn profi ar gyfer dim ond dau farciwr genetig. A wnaiff eich Llywodraeth ddatblygu strategaeth feddyginiaeth haenedig a sicrhau bod gwasanaeth genetig Cymru gyfan yn barod i brofi ar gyfer yr holl farcwyr genetig mewn cleifion canser?