Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 28 Mehefin 2016.
Mae'n wir mai’r newid mawr i driniaeth canser dros y degawd nesaf fydd triniaeth benodol i’r rhai â DNA penodol. Rydym ni’n hynod ffodus yn yr ystyr bod gennym ni ganolfan genetig canser Cymru—gwybodaeth sydd wedi ennill gwobr Nobel. Rwyf i’n sicr wedi bod yno ac maen nhw’n datblygu mwy o brofion wrth iddynt ymddangos. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, ceir profion penodol sy'n cael eu defnyddio. Mae rhai eraill a fydd yn datblygu dros gyfnod o amser ac yn ei gwneud yn llawer haws i driniaeth gael ei theilwra i'r unigolyn. Er enghraifft, ceir rhai cyffuriau y mae’n hysbys eu bod yn niweidiol i rai pobl ar siawns o 300, 400 neu 500 i 1, ond, hyd yma, ni fu unrhyw brofion i wneud yn siŵr nad yw unigolyn penodol yn un o'r bobl hynny a allai gael ei effeithio’n arbennig o wael gan y cyffur. Wrth i’r profion hyn ddatblygu, bydd gan fwy a mwy o bobl y cyfle o gael canlyniad gwell.