Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fy ymddiheuriadau, Lywydd. Mae'n amlwg bod gen i lawer i’w ddysgu yn y Siambr hon. A gaf i ychwanegu’n gryno fy sylwadau at y rhai sydd wedi condemnio hiliaeth? Ac mae angen i ni fod o ddifrif. Mae’r hyn y mae gwleidyddion, fel ni, yn ei ddweud—o ba bynnag blaid, pa bynnag Siambr yr ydym ni’n eistedd ynddi—yn bwysig, ac felly hefyd y mae gweithredoedd y cyfryngau tabloid ar lefel y DU hefyd. Dylem groesawu'r rhai sy’n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n sector preifat ar hyn o bryd hefyd sydd, heddiw, ychydig yn fwy ofnus.
A gaf i ofyn iddo, o ran priffddinas-ranbarth Caerdydd, ynghyd â metro de Cymru, gwelliannau posibl i reilffyrdd a phrif briffyrdd yn fy etholaeth i a ledled Cymru yn y dyfodol, ynghyd â phrentisiaethau a hyfforddiant yn fy Ngholeg Penybont lleol ac eraill—? Roedd pob un ohonynt yn dibynnu i ryw raddau, mawr neu fach, ar gyllid yr UE. Felly, a fyddai'n cytuno â mi ei bod yn ddyletswydd nawr ar yr arweinwyr gwleidyddol a phleidiau hynny, gan gynnwys arweinydd y Blaid Geidwadol yma heddiw, a wnaeth addewidion eglur y byddai'r arian hwn yn dychwelyd i bobl Cymru, i wneud iawn am y diffyg hwnnw y byddwn yn ei wynebu nawr? Ni ddylid cymryd yr un geiniog oddi wrth fy etholwyr nac oddi wrth bobl Cymru. Rydym ni’n disgwyl iddo fod yma. Ac a yw'n cytuno â mi ei bod braidd yn rhyfedd a syfrdanol nad oes gennym ni unfrydedd yn y Siambr hon ac ymhlith arweinwyr y pleidiau y dylai'r holl arian hwnnw ddod yn ôl i bobl Cymru i benderfynu beth sy'n digwydd iddo?