Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud wrthym ein bod angen 400 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn erbyn 2020 os ydym ni’n mynd i gynnig mynediad da at yr holl ofal sylfaenol. Mae'n destun pryder, felly, ein bod yn hyfforddi ychydig dros 100 o feddygon teulu y flwyddyn yng Nghymru, a dim ond 13 y cant o feddygon dan hyfforddiant sy’n treulio unrhyw amser mewn ymarfer cyffredinol. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud yn ystod y pumed Cynulliad i hyfforddi mwy o feddygon teulu yng Nghymru?