1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2016.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0080(FM)
Mae recriwtio meddygon teulu yn flaenoriaeth i ni. Rydym ni’n siarad â chynrychiolwyr meddygon teulu ledled Cymru ac yn datblygu modelau gofal newydd a fydd yn ddeniadol i feddygon teulu weithio ynddynt.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud wrthym ein bod angen 400 o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn erbyn 2020 os ydym ni’n mynd i gynnig mynediad da at yr holl ofal sylfaenol. Mae'n destun pryder, felly, ein bod yn hyfforddi ychydig dros 100 o feddygon teulu y flwyddyn yng Nghymru, a dim ond 13 y cant o feddygon dan hyfforddiant sy’n treulio unrhyw amser mewn ymarfer cyffredinol. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud yn ystod y pumed Cynulliad i hyfforddi mwy o feddygon teulu yng Nghymru?
Wel, mae gennym ni 2,887 o feddygon teulu, sydd 8 y cant yn uwch nag yn 2005, ac mae hynny'n dangos ein bod wedi bod yn buddsoddi mewn meddygon teulu. Nid yw’n ymwneud â meddygon teulu yn unig; yr holl weithlu gofal sylfaenol sy'n bwysig. Ydym, rydym ni’n hyfforddi meddygon teulu, ond ni wnawn ni fyth hyfforddi digon o feddygon teulu dim ond i weithio yng Nghymru; mae degawdau lawer wedi mynd heibio ers i ni recriwtio meddygon teulu dim ond o Gymru. Rydym ni wedi recriwtio o wledydd eraill; bydd hynny’n parhau i fod yn wir gan fod meddygaeth yn gymhwyster cludadwy rhyngwladol. Felly, mae'n fater o hyfforddi meddygon teulu—ydy, mae hynny'n wir; rwy’n deall pwysigrwydd hynny—ond hefyd parhau i sicrhau bod staff meddygol cymwysedig yn gweld Cymru fel lle deniadol i fyw a gweithio ynddo.
A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno efo fi bod yna, ar hyn o bryd, ddiffyg bri, os liciwch chi, ar fod yn feddyg teulu, a bod hynny’n cynnwys y ddelwedd allanol o natur y swydd, a hefyd o fewn y proffesiwn? A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â fi y gallem, fel rhan o’r cyfraniad at daclo recriwtio, edrych ar faterion fel sicrhau bod myfyrwyr 16 ac 17 oed yn cael eu hapelio i fynd i mewn i feddygaeth deulu yn benodol, yn hytrach na dim ond i feddygaeth, a hefyd bod yna bwyso i sicrhau bod yna statws uwch i hyfforddiant meddygaeth deulu o fewn hyfforddiant meddygol yn gyffredinol?
Wel, byddai gan lawfeddygon farn wahanol ynglŷn â hynny. Byddent yn dweud y dylai pethau fod yn fwy cyfartal. Ond, rwy’n deall y pwynt. Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n sylweddoli hefyd bod natur y gweithlu yn newid. Mae yna lai a llai o bobl sydd eisiau prynu i mewn i bractis. Maen nhw eisiau cael mwy o ryddid i symud ar draws Cymru. Nid ydyn nhw’n moyn ymrwymo arian i mewn i bractis—i rai, dyna beth fyddan nhw’n moyn ei wneud, ond i rai eraill, na. Felly, beth sy’n bwysig yw bod digon o fodelau ar gael yng Nghymru sy’n mynd i apelio at y garfan fwyaf o feddygon teulu, er mwyn sicrhau bod yna ffyrdd o weithio sy’n eu siwtio nhw, yn lle meddwl mai dim ond un ffordd o weithio sydd, sef yr un sydd wedi bod ers blynyddoedd mawr. Mae’n rhaid inni sicrhau bod yna strwythur sydd yn ehangach er mwyn recriwtio yn fwy.