Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 28 Mehefin 2016.
A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno efo fi bod yna, ar hyn o bryd, ddiffyg bri, os liciwch chi, ar fod yn feddyg teulu, a bod hynny’n cynnwys y ddelwedd allanol o natur y swydd, a hefyd o fewn y proffesiwn? A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â fi y gallem, fel rhan o’r cyfraniad at daclo recriwtio, edrych ar faterion fel sicrhau bod myfyrwyr 16 ac 17 oed yn cael eu hapelio i fynd i mewn i feddygaeth deulu yn benodol, yn hytrach na dim ond i feddygaeth, a hefyd bod yna bwyso i sicrhau bod yna statws uwch i hyfforddiant meddygaeth deulu o fewn hyfforddiant meddygol yn gyffredinol?