Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch, Brif Weinidog. Gall dibyniaeth ar gamblo arwain at broblemau emosiynol, ariannol a seicolegol anodd na ellir eu gweld yn aml tan eu bod wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Mae ymyrraeth a chefnogaeth gynnar yn hanfodol. Mae'r cynllun arbrofol risg a niwed gamblo arloesol, a gynhaliwyd gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth Casnewydd, wedi amlygu bod addysgu pobl ifanc yn allweddol i leihau effaith niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gamblo’n cael yr un sylw addysgol â dibyniaethau eraill?