1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2016.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chaethiwed i gamblo yng Nghymru? OAQ(5)0084(FM)
Rydym ni’n parhau i geisio pwerau i reoleiddio peiriannau betio ods sefydlog ac rydym ni’n cefnogi camau i gynyddu pwerau awdurdodau lleol o ran trwyddedu siopau betio newydd. Gall pobl sy'n dioddef dibyniaeth ar gamblo gael gafael ar gyngor a chymorth trwy eu meddygon teulu neu sefydliadau fel Gamblers Anonymous.
Diolch, Brif Weinidog. Gall dibyniaeth ar gamblo arwain at broblemau emosiynol, ariannol a seicolegol anodd na ellir eu gweld yn aml tan eu bod wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Mae ymyrraeth a chefnogaeth gynnar yn hanfodol. Mae'r cynllun arbrofol risg a niwed gamblo arloesol, a gynhaliwyd gan Ganolfan Cyngor ar Bopeth Casnewydd, wedi amlygu bod addysgu pobl ifanc yn allweddol i leihau effaith niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gamblo’n cael yr un sylw addysgol â dibyniaethau eraill?
Wel, mae'n hynod o bwysig bod pobl yn gweld gamblo fel rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, yn yr un ffordd ag y mae pobl yn gweld alcohol fel rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, fel y mae cam-ddefnyddio cyffuriau penodol yn rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, mae'n hynod o bwysig gyda gamblo hefyd. Rydym ni’n ystyried ffyrdd y gallwn ni sicrhau, trwy gyfrwng ein system addysg, bod pobl yn deall peryglon gamblo. Byddai'n sicr yn ddefnyddiol, wrth gwrs, o'n safbwynt ni, pe byddem yn gweld datganoli pwerau dros rai mathau o gamblo hefyd, fel y gellid eu rheoleiddio’n well.
Ac yn olaf, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, rwy'n falch iawn o glywed eich bod eisiau defnyddio'r pwerau rheoleiddio sydd ar gael i atal gamblo sy’n achosi problem mewn cymdeithas. Byddwch yn gwybod yr ystyrir bod tua un o bob 50 o ddynion yn gaeth i gamblo erbyn hyn, ac mae hwnnw’n ffigur sy’n peri pryder mawr, a gall gael effeithiau niweidiol iawn ar gymdeithas. Ond a ydych chi’n rhannu gyda mi y pryder a fynegwyd gan y rhai a oedd yn bresennol yng nghynhadledd Stafell Fyw Caerdydd, Beat the Odds, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf yn adeilad y Pierhead, nad oes digon o waith yn cael ei wneud i ddatblygu gwasanaethau caethiwed i gamblo yma yng Nghymru? Mae gennym ni un ardderchog yma yng Nghaerdydd, a gefnogir gan y Stafell Fyw a CAIS—elusen, wrth gwrs, sy’n gweithredu ar draws Cymru gyfan—ond nid yw’r rheini ar gael ym mhob rhan o Gymru eto, ac mae cyfle, rwy’n credu, i’w datblygu. Pa waith fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod mynediad cyfartal at wasanaethau o'r fath yn y dyfodol?
Bydd y strategaeth cynhwysiant ariannol sydd gennym ni yn ystyried sut y gallwn ddatblygu ffyrdd eraill o helpu pobl i ymdrin â gamblo, ac yn helpu pobl i wneud dewisiadau cytbwys am gamblo. Ddim yn bell yn ôl, roedd siopau betio y tu ôl i ddrysau caeedig a ffenestri tywyll. Nawr, mae ym mhobman. I'r rhai ohonom ni sydd â diddordeb parhaus ym mhencampwriaeth Ewrop, rydym ni’n gweld, pob un hysbyseb, lle mae pobl hyd yn oed yn cael eu hannog i gymryd eu harian cyn i’r gêm orffen hyd yn oed. Mae'r oes ddigidol wedi cynnig cyfleoedd gwych i'r diwydiant gamblo, ond cyfleoedd gwych i bobl ddod yn fwy caeth nag y gallent fod cynt. Dyna pam mae’n hynod o bwysig i ni ymdrechu’n galetach.
Diolch, Brif Weinidog.