– Senedd Cymru am 5:29 pm ar 28 Mehefin 2016.
Rŷm ni nawr, felly, yn symud ymlaen i ethol Cadeiryddion y pwyllgorau. Rwyf i nawr yn mynd i wahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2F i ethol Cadeiryddion i’r pwyllgorau. Yn unol â’r weithdrefn a gytunwyd yn gynharach heddiw, dim ond Aelod o’r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo a all gael ei enwebu fel Cadeirydd. Dim ond Aelod o'r un grŵp plaid sy’n cael cynnig yr enwebiad. Cytunwyd ar ddyraniad swyddi’r Cadeiryddion i grwpiau gwleidyddol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A. Pan fo gan grŵp plaid fwy nag 20 Aelod, mae’n rhaid i’r sawl a enwebir gael ei eilio gan Aelod arall yn yr un grŵp. Yn achos grwpiau plaid sydd â llai nag 20 Aelod, nid oes angen eilydd. Os bydd yna unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad, neu os ceir dau enwebiad neu ragor ar gyfer un pwyllgor, dilynir y drefn bleidleisio a nodir yn Rheol Sefydlog 17 i ethol Cadeirydd y pwyllgor hwnnw. Yna byddaf yn parhau i alw am enwebiadau ar gyfer gweddill y pwyllgorau.
Rwy’n dechrau, felly, ac rwy’n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y dyrannwyd Cadeirydd iddo o’r Blaid Lafur. A oes unrhyw enwebiadau?
A gaf i enwebu Julie Morgan?
A oes unrhyw un yn eilio’r enwebiad yna?
Eilio.
A oes rhagor o enwebiadau?
Rwyf yn enwebu Lynne Neagle.
A oes rhywun yn eilio’r enwebiad yna?
Rwyf i'n eilio.
A oes rhagor o enwebiadau? Os na, yna bydd y Cadeirydd yma nawr, gan fod dau enwebiad, yn cael ei ethol drwy bleidlais gudd, ac felly rwy’n symud ymlaen i’r pwyllgor nesaf.
Rwy’n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, y dyrannwyd Cadeirydd iddo o blaid UKIP. A oes unrhyw enwebiad?
Oes, rwyf yn enwebu Mark Reckless.
A oes unrhyw Aelod, felly—a oes rhagor o enwebiadau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad yna? Os felly, rwy’n datgan bod Mark Reckless wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Symud nawr, felly, i’r enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y dyrannwyd Cadeirydd iddo o’r Blaid Lafur. A oes unrhyw enwebiadau i gadeirio’r pwyllgor yma—y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? A oes unrhyw enwebiadau?
Huw Irranca-Davies.
A oes eilydd i’r enwebiad yna?
Eilio.
A oes rhagor o enwebiadau? Gan nad oes rhagor o enwebiadau, a gaf i ofyn a oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad yna? Os na, rwy’n datgan bod Huw Irranca-Davies wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Rwy’n gwahodd yn awr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, y dyrannwyd Cadeirydd iddo o Blaid Cymru. A oes enwebiadau?
Lywydd, rwy’n enwebu Bethan Jenkins.
A oes rhagor o enwebiadau? Gan—[Chwerthin.]
Mae pob llygad arnaf i.
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad? Gan nad oes yna wrthwynebiad, rwy’n datgan bod Bethan Jenkins wedi ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Rwy’n symud ymlaen nawr i agor enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, y dyrannwyd Cadeirydd iddo o grŵp y Ceidwadwyr. A oes enwebiad ar gyfer y Gadair yma?
Rwyf yn enwebu Russell George.
A oes rhagor o enwebiadau?
Rwyf yn enwebu Janet Finch-Saunders.
A oes rhagor o enwebiadau? Gan, felly, fod yna ddau enwebiad ar gyfer y pwyllgor yma, bydd y Cadeirydd yma’n cael ei ethol drwy bleidlais gudd.
Rwy’n symud nawr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, y dyrannwyd y Cadeirydd yma o’r Blaid Lafur. A oes enwebiad ar gyfer y Gadair yma?
Rwyf yn enwebu John Griffiths.
A oes eilydd i’r enw yna?
Eilio.
A oes rhagor o enwebiadau?
Rwy’n enwebu Lee Waters.
A oes eilydd i’r enw yna?
Eilio.
A oes rhagor o enwebiadau?
Rwy’n enwebu Jenny Rathbone.
A oes eilydd i’r enwebiad yna?
Rwyf yn eilio'r enwebiad yna.
A oes rhagor o enwebiadau? Gan nad oes rhagor o enwebiadau, a chan fod mwy na dau enwebiad, bydd y Cadeirydd yma yn cael ei ethol neu ei hethol drwy bleidlais gudd.
Rwy’n symud ymlaen yn awr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid y dyrannwyd y gadeiryddiaeth yma i Blaid Cymru. A oes enwebiadau?
Lywydd, rwyf yn enwebu Simon Thomas.
A oes rhagor o enwebiadau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad? Gan nad oes yna wrthwynebiad, rwy’n datgan bod Simon Thomas wedi’i ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Rwy’n gwahodd enwebiadau nawr ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y dyrannwyd Cadeirydd iddo o Blaid Cymru. A oes enwebiadau?
Rwyf yn enwebu Dr Dai Lloyd.
A oes rhagor o enwebiadau?
Lywydd, hoffwn i enwebu Rhun ap Iorwerth.
Gan fod yna ddau enwebiad ar gyfer y pwyllgor yma, fe fydd yna bleidlais gudd ar gyfer ethol Cadeirydd y pwyllgor yma.
Rwy’n gwahodd yn awr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau y dyrannwyd Cadeirydd iddo o’r Blaid Lafur. Rwy’n galw am enwebiadau.
Rwyf yn enwebu Mike Hedges.
A oes eilydd i’r enwebiad yna?
Rwyf yn eilio.
A oes rhagor o enwebiadau? Nid oes rhagor o enwebiadau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu’r enwebiad? Gan nad oes gwrthwynebiad, rwy’n datgan bod Mike Hedges wedi’i ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
Symud nawr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y dyrannwyd y Cadeirydd iddo o grŵp y Ceidwadwyr. A oes enwebiad?
Rwyf yn enwebu Darren Millar.
A oes rhagor o enwebiadau?
Rwyf yn enwebu Mark Isherwood.
Rwyf yn enwebu Nick Ramsay.
A oes rhagor o enwebiadau? Janet Finch-Saunders.
Rwyf yn enwebu Mark Isherwood.
A oes rhagor o enwebiadau? Mohammad Asghar.
Rwyf yn enwebu Nick Ramsay.
Felly, mae yna fwy na dau enwebiad ar gyfer y gadeiryddiaeth yna. Fe fydd hynny’n symud at ethol drwy bleidlais gudd.
Rydw i’n nawr yn gofyn am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn y dyrannwyd y Cadeirydd iddo o’r Blaid Lafur. A oes enwebiad i’r pwyllgor yma?
Rwyf yn enwebu David Rees.
A oes eilydd?
Eiliwyd.
A oes rhagor o enwebiadau? Gan nad oes rhagor o enwebiadau a taw un enwebiad yn unig sydd, rwy’n datgan bod David Rees wedi’i ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn.
Rwy’n gwahodd nawr, felly, enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y dyrannwyd Cadeirydd iddo o’r Blaid Lafur. Rwy’n galw am enwebiadau.
Rwyf yn enwebu Jayne Bryant.
A oes eilydd i’r enwebiad yna?
Rwyf yn eilio Jayne Bryant.
A oes rhagor o enwebiadau? Gan nad oes mwy o enwebiadau, a chan taw un yn unig sydd, ryw’n datgan bod Jayne Bryant wedi’i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Dyna derfyn ar y broses enwebu. Yn achos yr enwebiadau hynny a gyfeirir ar gyfer pleidlais gudd yn unol â’r Rheolau Sefydlog, rwy’n dweud wrth Aelodau y bydd y pleidleisiau cudd yn cael eu cynnal yn Ystafell Briffio 13 yn y Senedd yma rhwng 12 o’r gloch prynhawn yfory a 3 o’r gloch prynhawn yfory. Y clerc fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r broses bleidleisio a’r broses o gyfrif y pleidleisiau. Ar ôl y pleidleisiau cudd, byddaf yn cyhoeddi’r canlyniad cyn y ddadl fer yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yfory. Diolch i chi, felly. Daw hynny â’r trafodion heddiw i ben.