Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 28 Mehefin 2016.
O'r hyn yr wyf newydd ei glywed, mae'n amlwg nad oes gan yr ymgyrchwyr 'gadael' unrhyw gynllun nac unrhyw syniad am yr hyn y dylem ei wneud nesaf. Ni roddodd y cyfraniad yna a wnaethoch i ni nawr unrhyw beth pendant o gwbl i ni. Ddydd Iau diwethaf, pleidleisiodd Cymru o drwch blewyn i adael yr Undeb Ewropeaidd, a gwelodd ymgyrch y refferendwm naws o chwerwder ac anesmwythdra yn disgyn ar draws y wlad ac ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno afal gwenwyn Brexit i brif weinidog newydd ym mis Hydref. Mae telerau Brexit yn aros yn anhysbys, fel yr ydym newydd ei weld. Mae prif wrthblaid y DU, y Blaid Lafur, hefyd wedi llithro i anhrefn dwfn ac nid yw mewn unrhyw sefyllfa ar hyn o bryd i roi unrhyw arweiniad. Ac, i Blaid Cymru, mae bod ar ochr aflwyddiannus y ddadl hon hefyd yn gwneud i ninnau feddwl am yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae pobl nad ydynt o reidrwydd yn anghytuno â Phlaid Cymru ar ein holl bolisïau wedi troi yn erbyn Brwsel fel ffynhonnell o ddicter a rhwystredigaeth, ac am lu o wahanol resymau. Eto i gyd, mae'n rhaid inni gofio bod 48 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru wedi pleidleisio i aros. Mae hynny'n cynrychioli dros 772,000 o bobl. Dylai'r pleidleiswyr 'aros' hynny gael eu trin gyda'r parch y maent yn ei haeddu gan unrhyw Lywodraeth a ddaw i mewn yn y DU a dylent gael cynnig dyfodol cadarnhaol yma yng Nghymru hefyd.
Lywydd, sicrhaodd yr ymgyrch ‘gadael’ fuddugoliaeth ar sail adduned i bobl yma yng Nghymru. Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yma y byddai hyd at £490 miliwn y flwyddyn ar gael i Gymru, y gallem ddewis ei wario ar ein GIG. Mae hyn yn cynrychioli swm o arian uwch na’r hyn a ragwelwyd fel arfer trwy ddiwygio fformiwla Barnett. Mae'r ymgyrch ‘gadael’ hefyd wedi addunedu y byddai pob un o gronfeydd strwythurol a chronfeydd amaethyddol Cymru yn cael eu diogelu, ac, yn eu hadduned, roeddent hefyd yn cynnwys y cronfeydd sydd o fudd i'n prifysgolion, a’n sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg. Dywedasant hefyd y gallai'r DU gymryd rheolaeth dros ei ffiniau ei hun ac y gallai hefyd barhau i fasnachu â'r Undeb Ewropeaidd. Dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru mai'r unig bobl a fyddai'n colli eu swyddi fyddai Aelodau’r DU o Senedd Ewrop. Amser a ddengys a fydd yr adduned hon yn cael ei gwireddu, ond, mewn gwirionedd, mae’r addewid o £490 miliwn y flwyddyn yn edrych fel ei fod wedi diflannu yn barod. Mae'n rhaid inni dderbyn mai’r canlyniad oedd gadael, ond mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn bod y bleidlais wedi’i sicrhau ar brosbectws ffug.
Rydym ni yng Nghymru hefyd erbyn hyn yn wynebu Teyrnas Unedig sy'n newid. Mae posibilrwydd cryf, ymhen ychydig flynyddoedd, na fydd Teyrnas Unedig dydd Mercher diwethaf yn bodoli bellach. Mae'r refferendwm, yn hytrach nag uno’r Deyrnas Unedig, wedi ei rhannu, o ran yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pan fydd y sefyllfa newydd honno’n dod i'r amlwg, fy marn i yw bod pobl yng Nghymru yn haeddu cael dweud eu dweud ar le Cymru yn y cyd-destun newydd. Mae'n rhaid i hynny gynnwys y dewis o fod yn bartner llawn yn yr ynysoedd hyn, fel gwladwriaeth annibynnol, ar yr amod ein bod yn cadw strwythur undeb rhwng Cymru, Lloegr a gwledydd perthnasol eraill.
Bydd Plaid Cymru hefyd yn rhoi ei sylw i'r sefyllfa uniongyrchol sy'n wynebu'r wlad, wrth i bobl bryderu am eu swyddi, eu bywoliaeth a'u pensiynau. Byddwn yn dwyn yr ymgyrch ‘gadael’ i gyfrif ar ei hadduned i Gymru, gan gynnwys unrhyw Lywodraeth a ddaw i mewn yn y DU. Byddwn yn cymryd camau i gryfhau sefyllfa Cymru yn gyfansoddiadol, heb gynrychioli mewn unrhyw ffordd y bleidlais ‘gadael’ fel pleidlais i grynhoi pwerau ychwanegol yn San Steffan. Rydym yn barod i gydweithredu ag eraill i sicrhau parhad Cymru fel cenedl yn ei rhinwedd ei hun, ond rydym yn glir bod yn rhaid i'r drafodaeth genedlaethol gynnwys yr holl ddewisiadau ac na ddylai Cymru fod yn bartner segur yn nadl y DU.