Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 28 Mehefin 2016.
Mae pleidlais ddydd Iau diwethaf yn rhoi rhywbeth y byddwn wedi meddwl y byddai Plaid Cymru yn ei groesawu—fe'i gelwir yn annibyniaeth genedlaethol; maent yn ymddangos i fod braidd yn ofnus o hyn. Ond, erbyn hyn mae gennym y cyfle i wneud penderfyniadau drosom ein hunain. Gall cyllid yr UE y cyfeiriwyd ato gymaint o weithiau yn y Siambr hon heddiw bellach gael ei ddychwelyd i ni, boed hynny i Senedd San Steffan neu’r Cynulliad hwn yng Nghaerdydd. Ac, ein blaenoriaethau ni, nid blaenoriaethau’r Comisiwn Ewropeaidd, fydd yn bwysig. Ac rydym ni'n atebol, fel y mae Aelodau Seneddol, i etholaethau gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, a byddwn yn atebol dros ein penderfyniadau yn y blwch pleidleisio, a dyna sut y dylai hi fod.
Rwyf wedi dweud erioed nad oedd y ddadl hon am yr Undeb Ewropeaidd yn ymwneud â chenedlaetholdeb, ond â democratiaeth. Rwy’n cymeradwyo ac yn canmol yr ysbryd y gwnaeth y Prif Weinidog gyflwyno ei ddatganiad funud yn ôl, a oedd yn canolbwyntio ar Gymru sy’n edrych tuag allan a blaengar, a heb ddefnyddio iaith fel yr ydym newydd ei chlywed gan arweinydd Plaid Cymru am sut y mae Brexit yn afal gwenwyn. Mae'n gyfle gwych i Gymru hysbysebu ei hun yn y byd, a chanmol ei galluoedd a’i hentrepreneuriaeth naturiol ei hun yn llawn.
Ydy, mae'n wir fod ansicrwydd yn sgil y bleidlais ddydd Iau diwethaf, yn yr un modd ag yr oedd ansicrwydd pan wnaethom ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, neu'r Farchnad Gyffredin, fel yr oedd bryd hynny, ar 1 Ionawr 1973. Bydd newidiadau canlyniadol, does dim amheuaeth am hynny. Ond dyma gyfle gwych sydd gennym. Pam y byddai’r Undeb Ewropeaidd am godi rhwystrau masnach yn erbyn y Deyrnas Unedig pan fod gennym £100 biliwn y flwyddyn o ddiffyg masnach gyda nhw, pan, o ystyried y fasnach ceir yn yr Almaen yn unig, fod gennym £11 biliwn o ddiffyg masnach y flwyddyn? Nid yw gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn mynd i fod eisiau gweld tariffau 10 y cant ar fasnach rhyngom ni oherwydd y byddant yn colli cryn dipyn o ganlyniad i hynny. Mae gennym ddiffyg o £10 biliwn ar fwyd, er enghraifft, yn y wlad hon, o'i gymharu â gweddill yr Undeb Ewropeaidd. Felly ni ddylai fod gan ffermwyr Prydain, unwaith eto, unrhyw reswm i ofni canlyniadau pleidlais dydd Iau diwethaf.
Ond, mae'n rhoi cyfle i ni, fel y dywedais yn fy nghwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach, i ddyfeisio polisïau sy'n addas ar gyfer ein ffermwyr ein hunain yng Nghymru nawr, a diwydiannau eraill hefyd. O ran dur, er enghraifft, mae gennym nawr y cyfle i ailgymryd ein lle ar fwrdd Sefydliad Masnach y Byd, ac yna mae gennym y rhyddid i gyflwyno tariffau, yn yr un modd â’r Unol Daleithiau, ar ddur a rowliwyd yn oer.
Dwi ddim yn siŵr a yw'n bosibl i ildio—