Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 28 Mehefin 2016.
Yn sicr, byddwn wedi croesawu cofrestriad uwch o lawer o bobl ifanc a chanran pleidlais llawer uwch. Rwy’n sicr yn derbyn hynny, ond rwyf am dynnu sylw at deimlad y bobl ifanc nad oeddent yn cael pleidleisio, ac a wnaeth bleidleisio ac a oedd eisiau mynegi eu rhwystredigaeth ynghylch canlyniad y refferendwm. Ac, fel y dywedais, roeddent yn galw am bleidlais i rai 16 a 17 mlwydd oed, a gwn fod hynny’n rhywbeth y gall y Cynulliad hwn fynd i'r afael ag ef yn y dyfodol pan fydd Bil Cymru yn mynd drwyddo. Ond, eu galwad arall oedd am ail refferendwm. Credaf fod yn rhaid i ni barchu’r farn sydd wedi ei dangos gan bobl Cymru, ond y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i ganfod ffyrdd o alluogi Cymru i barhau i gael cymaint o fanteision o fod yn yr UE ag sy'n bosibl oherwydd mae Cymru wedi cael buddion enfawr o'r UE.
Mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn, fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, ei bod mewn gwirionedd yn bleidlais agos yng Nghymru. Pleidleisiodd Caerdydd, wrth gwrs, y brifddinas, 60-40 i aros, a chafodd y bleidlais hon ei hadlewyrchu ym mhob rhan o'r DU. Yn y bôn, pleidleisiodd llawer o'r dinasoedd mwy i aros, gan gynnwys Llundain, Bryste a Chaeredin. Y ffigyrau yng Nghymru oedd 52.5 y cant dros adael a 47.5 y cant dros aros, ac rwy’n ystyried bod hynny yn bleidlais agos. Ond, mae'n ddiddorol ac, o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU lle y ceir demograffig debyg a hefyd dosbarth canol bychan, megis gogledd-ddwyrain Lloegr, pleidleisiodd 58 y cant dros adael, ac yng ngorllewin canolbarth Lloegr, roedd 59.3 y cant dros adael. Yng Nghymru, roedd yn ganlyniad agos, ac, wrth gwrs, dywedodd Nigel Farage ei hun pe byddai mwyafrif bychan dros ‘i mewn’ y byddai achos dros gynnal ail refferendwm. Felly, nid wyf yn credu bod y canlyniad yn ganlyniad pendant iawn. Rwy'n credu ei bod yn fuddugoliaeth o drwch blewyn dros ‘adael’ ac rwy’n credu mai'r peth iawn i'w wneud fyddai defnyddio unrhyw gyfle i wirio mai dyma mewn gwirionedd oedd yr hyn yr oedd pobl Cymru ei eisiau, pan eich bod yn ystyried y buddion y mae Cymru wedi’u cael o arian yr UE, yn enwedig pan welwyd bod llawer o'r pethau a ddywedwyd i berswadio pobl i bleidleisio wedi eu dangos i fod wedi eu gwneud o lwch. Hefyd, mae'r pwynt eisoes wedi'i wneud am rwygo’r DU, sy'n debygol, gyda'r Alban yn paratoi ar gyfer deddfwriaeth i gael ail bleidlais ar annibyniaeth. Yn sicr, os bydd hynny'n digwydd, os yw'r cynnig hwnnw ar gael, mae angen i Gymru gael cyfle i roi ei barn ar hynny.
Rwy'n falch iawn bod y Prif Weinidog wedi dweud, ar ôl i’r telerau ymadael gael eu cytuno, y bydd yn ceisio cyfle i Gymru a gwledydd eraill y DU roi eu barn. Unwaith eto, rwy’n credu, ar yr adeg honno, y byddai cyfle i geisio barn y bobl yn ogystal â barn Aelodau y tŷ hwn.
Felly, yn olaf, rwy’n credu bod yn rhaid i ni barhau—i feddwl y gall Cymru barhau ei chysylltiadau â gweddill Ewrop, a bydd yn rhaid i ni wneud ymdrechion pendant iawn, cadarnhaol iawn i wneud hynny. Pethau fel Caerdydd yn aelod o rwydwaith EUROCITIES, er enghraifft; dyna’r ffordd y gallwn barhau i ymestyn allan a chael budd o gyllid ar gyfer y rhwydwaith penodol hwnnw. Diolch.