Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 28 Mehefin 2016.
Mae’n drist iawn fod y ddadl hon heddiw ar Gymru a’r UE yn digwydd yng nghysgod penderfyniad mwyafrif ein cyd-ddinasyddion i dynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd, ond dyna oedd eu hawl democrataidd, ac maent wedi ei arfer. Ond gwnaed adduned i bobl y wlad hon, fel y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud. Roedd yn adduned benodol, ac fe gafodd ei hailadrodd. Roedd yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu gwariant ar y gwasanaeth iechyd gwladol, roedd yn cynnwys ymrwymiad y byddai gwladwriaeth Prydain yn talu pob ceiniog o arian yr UE a gollwyd i ffermwyr ac mewn cymorth i gymunedau difreintiedig. Mae Plaid Cymru yn aros yn eiddgar am ymddangosiad, am y tro cyntaf mewn hanes, Prif Weinidog Prydain yn Stryd Downing, ym mis Medi, yn cyhoeddi’r cynnydd digynsail mwyaf erioed mewn buddsoddiad yng Nghymru. Bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog newydd hwnnw wneud hynny heb unrhyw arbedion o aelodaeth Ewropeaidd oherwydd, fel y canfuom dros y penwythnos, efallai y bydd y cynllun Brexit yn cynnwys aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sy'n dod gyda ffi aelodaeth sylweddol. Gwnaed adduned i bobl y wlad hon, ac mae llawer ohonynt yn byw yng nghymunedau tlotaf y cyfandir hwn. Ni wnaiff Plaid Cymru ganiatáu i rywun ddweud celwydd wrth y bobl hynny. Mae ganddynt lawer gormod i’w golli.
Lywydd, yn yr wythnosau sy'n arwain at benodi Prif Weinidog newydd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i hybu, cystal ag y gall, budd cenedlaethol Cymru. A hoffwn wneud awgrym penodol i'r Prif Weinidog, yr wyf yn gobeithio y bydd yn ei ystyried yn ystod y dyddiau nesaf yn rhan o ymateb ei Lywodraeth. A wnaiff lunio a chyhoeddi, ar gyfer dadl yn y Cynulliad hwn, gynllun lliniaru cenedlaethol ar gyfer Cymru, yn seiliedig ar dair elfen gyffredinol? Yn gyntaf, y camau y gellir eu cymryd yn fewnol, yng Nghymru, i gefnogi’r cymunedau hynny sy'n wynebu'r ansicrwydd mwyaf, megis y gorllewin a'r Cymoedd, a fydd yn chwilio am ffynonellau eraill o gymorth, a chymunedau gwledig, a fydd angen lefelau uwch o gymorth ariannol. A wnaiff ef hefyd ystyried cyflwyno, yn rhan o'r elfen hon, Bil tegwch economaidd, fel bod gennym bolisi datblygu rhanbarthol i gefnogi pob cwr o’n cenedl, gan ddefnyddio'r pwerau cyfalaf cyfyngedig sydd gennym yn y modd gorau?
Yn ail, yn rhan o'r cynllun lliniaru cenedlaethol hwn, rydym yn awgrymu ail elfen i edrych ar newidiadau sydd eu hangen ar lefel Ynysoedd Prydain sy’n hybu budd cenedlaethol Cymru. Er enghraifft, a fydd y Prif Weinidog yn edrych ar hyrwyddo creu banc buddsoddi'r ynysoedd, tebyg i fodel Banc Buddsoddi Ewrop, i ddarparu cyllid ar gyfer cynlluniau a fyddai fel arall yn cael eu hariannu gan Fanc Buddsoddi Ewrop, a hefyd efallai fel mecanwaith ar gyfer cyflwyno rhaglen cronfeydd strwythurol newydd i ddisodli’r rhai a fydd yn cael eu colli o ganlyniad i ni dynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd? A wnaiff ef hefyd ystyried cyhoeddi cynigion ar gyfer y newidiadau cyfansoddiadol sydd eu hangen ar unwaith i gryfhau sefyllfa Cymru fel nad ydym yn cael ein hymgorffori yn awr mewn endid gwrthun Cymru a Lloegr sy'n gweithio yn erbyn ein buddiannau cenedlaethol?
Ac, yn olaf, yn rhan o drydedd elfen y cynllun lliniaru cenedlaethol hwn, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried rhoi sylw i sefyllfa Cymru yn y gymuned ryngwladol, gan gynnwys, wrth gwrs, y berthynas newydd y bydd yn rhaid i ni ei hadeiladu â gwledydd eraill yn Ewrop? Yn benodol, a fydd yn ceisio mynediad llawn a dilyffethair i Lywodraeth Cymru i rwydwaith diplomyddol y wladwriaeth Brydeinig, fel y gellir sefydlu llais Cymru ar wahân ar gyfer sicrhau masnach a datblygu cysylltiadau ar draws Ewrop a'r byd ehangach? Dylai'r Prif Weinidog hefyd ystyried adnewyddu ymdrechion i ddenu gwledydd eraill i agor cenadaethau diplomyddol yma yng Nghaerdydd yn rhan o'r broses hon.
Lywydd, pa bynnag ffordd y pleidleisiodd pobl yr wythnos diwethaf, bydd llawer ar bob ochr yn edrych tua'r dyfodol yn bryderus. Eironi trist ymgyrch y refferendwm oedd camddealltwriaeth sylfaenol, ac, yn fy marn i, bwriadol o’r egwyddor o undeb agosach fyth. Mae’r rhan honno o gytuniadau'r UE, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr undeb agosach fyth o bobloedd, nid Llywodraethau, Ewrop. Fy ngobaith, efallai yn erbyn pob tebygolrwydd, yw y gall pobl y genedl hon barhau i sefyll gyda phobloedd y cyfandir hwn, ac na fydd y freuddwyd o Gymru yn Ewrop fyth yn marw.