Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 28 Mehefin 2016.
A gaf i ddiolch i’r rheolwr busnes am ei datganiad a diolch am newid busnes y Llywodraeth er mwyn caniatáu inni drafod heddiw ganlyniad y refferendwm yr wythnos diwethaf? Mae’n siŵr bod Aelodau yn parchu ac yn ddiolchgar am hynny. Oherwydd hynny, rydych chi wedi gohirio y ddadl roeddech chi am ei thrafod ynglŷn ag ailenwi’r Siambr—dim y Siambr; mae’r Siambr eisoes yn enw yn y Senedd—ailenwi’r sefydliad yn ‘Senedd Cymru’. A fedrwch chi gadarnhau, pan rydych chi’n dod nôl at y cynnig hwnnw, y byddwch wedi trafod ac wedi cymryd i ystyriaeth rai o’r gwelliannau a oedd eisoes yn cael eu trafod wrth i’r cynnig gael ei osod ar gyfer yr wythnos hon, ac felly y bydd hynny wedi symud ymlaen rhywfaint cyn trafod y cynnig yn enw’r Llywodraeth?
Ac yn ail, fe hoffwn i jest godi dau neu dri o bethau sydd yn deillio o’r drafodaeth rydym wedi ei chael heddiw ynglŷn â’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. A oes modd, os gwelwch yn dda, felly, gael datganiad yn weddol o glou—yn sicr cyn yr haf—ar y ffordd mae’r Llywodraeth yn ei gweld ymlaen ar gyfer perthynas y farchnad sengl a’r farchnad rydd—y ddwy berthynas bosibl i Gymru—y tu fewn i’r sefyllfa yma. Rwyf wedi gofyn eisoes i’r Prif Weinidog ynglŷn â lle rwy’n dod ohono fel aelod o’r ardal economaidd Ewropeaidd, ond byddai’n dda iawn cael datganiad ffurfiol gan y Llywodraeth ynglŷn â pha safiad mae’r Llywodraeth yn ei gymryd wrth inni fynd mewn i’r broses o negodi i adael yr Undeb Ewropeaidd, achos nid oes yr un o’r cwestiynau yma wedi eu hateb yn ystod yr awr a hanner diwethaf, yn sicr gan y bobl a oedd am adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yr ail ran o hynny yw: a oes modd cael datganiad, efallai gennych chi fel y prif reolwr busnes, ynglŷn â’r ffordd y gall y Cynulliad cyfan fod yn rhan o’r trafodaethau hynny? Eto, dywedodd y Prif Weinidog wrth ateb cwestiynau ei fod am weld pob plaid yn cymryd rhan yn y broses yna. Ond er bod gennym nes ymlaen heddiw ffordd o sefydlu pwyllgorau, efallai y dylem ni ofyn a oes angen rhyw ffordd fwy gwleidyddol, fwy pleidiol os liciwch chi, o ddod â phawb at ei gilydd er mwyn bod yn rhan o’r broses yna. A ydych chi wedi ffurfio barn eisoes, ac a oes modd cael datganiad yn gosod allan y ffordd rydych chi’n gweld hynny yn gweithio?
Y pwynt olaf hoffwn ei godi gyda chi yw’r un sy’n deillio’n uniongyrchol o’r profiad mae’n siŵr mae pob un ohonom yn ei gael ar hyn o bryd. Bûm mewn cyfarfod ddoe o’r fforwm camlesi yn y Drenewydd, lle mae yna gynllun i adfer yr hen gamlas drwy’r Drenewydd. Ac, wrth gwrs, dro ar ôl tro yn ystod y drafodaeth yma, roedd pobl yn trafod eu bod nhw yn mynd am arian Ewropeaidd i wneud hyn, ac roeddwn i eisiau camu’n ôl a dweud wrth bobl ‘Does dim arian Ewropeaidd yn mynd i fod ar gael mewn dwy flynedd, neu ddwy flynedd a hanner’—beth bynnag yw hi. Ond nid yw hynny wedi treiddio drwyddo eto—nid yw wedi suddo drwyddo. Ac mae’n siŵr fod pob un ohonom ni wedi cael sgyrsiau fel hyn gyda grwpiau sydd wedi dibynnu—fe allech chi ddweud wedi gorddibynnu efallai—ond maen nhw wedi dibynnu ar arian Ewropeaidd yn y gorffennol, ac nawr maen nhw eisiau bwrw ymlaen gyda chynlluniau sydd yn dal yn bwysig i’w cymunedau nhw ac sydd yn dal yn bwysig i dwristiaeth a thyfu yr economi. A gawn ni felly ddatganiad cyn yr haf, eto gan yr Ysgrifennydd dros yr economi—datganiad cynhwysfawr yn gosod allan yr holl gynlluniau sy’n cael eu hariannu ar hyn o bryd tu fewn i Gymru o dan arian Ewropeaidd, eu cyfnod nhw, pryd maen nhw’n debyg o ddod i ben a phryd mae disgwyl, pe bai cynllun yn cario ymlaen, i ail ffrwd gynllunio neu beth bynnag i ddechrau?
Mae eisiau i ni edrych ar hyn, rwy’n meddwl. Nes ymlaen wedyn, gallai fynd i bwyllgor a chael ei drafod yn iawn. Ond mae wir eisiau edrych a ‘scope-io’ effaith y ffaith y bydd y cronfeydd strwythurol a’r arian ESF yn dod i ben. Mae eisiau ‘scope-io’ hynny yn ofalus iawn, a byddai datganiad cynhwysfawr jest yn gosod allan er mwyn i edrych arno fe yn ffordd i bobl sylwi ar y broses yma, ac yn ail, wrth gwrs, wrth i ni ddechrau edrych ar y ffordd rydym yn negodi hynny, a’r ffordd rydym ni wedyn yn rhoi pwysau ar y bobl wnaeth ein harwain ni i’r sefyllfa yma i ddiogelu fod pob ceiniog yn dod i Gymru.