– Senedd Cymru am 3:45 pm ar 28 Mehefin 2016.
Rydym yn symud nawr i eitem 3 ar yr agenda, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy’n galw ar Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi gwneud sawl newid i fusnes yr wythnos hon mewn ymateb i ddigwyddiadau’r wythnos diwethaf. Bydd yr Aelodau'n gwybod y cafodd y datganiad ar gyfnod 1 gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig ddoe. Yn yr un modd, bydd y datganiadau llafar ar gyrff llywodraethu ysgolion, rheoli risgiau llifogydd ac erydu arfordirol, a'r strategaeth gwaith ffyrdd a gwaith stryd yn cael eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig, ac mae’r ddadl ynglŷn ag ailenwi'r Cynulliad wedi ei gohirio tan yr wythnos nesaf. Bydd y Prif Weinidog, er hynny, yn nodi rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth mewn datganiad llafar y prynhawn yma. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi trefnu nifer o gynigion trefniadol yn ymwneud â phwyllgorau'r Cynulliad. Mae busnes y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Rydym newydd gael dechrau trafodaeth bwysig iawn ar y penderfyniad tyngedfennol a brawychus a wnaed ddydd Iau diwethaf. Tybed a yw'n bosibl, cyn toriad yr haf, cynnwys tair dadl arall ynglŷn â meysydd penodol sy'n deillio o’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd? Un ohonynt yw dyfodol ein pysgodfeydd, a sut y gallwn eu hamddiffyn yn wyneb y ffaith nad oes gennym ond un cwch ar hyn o bryd i amddiffyn ein harfordir cyfan.
Yn ail, y goblygiadau i bob un o’n prifysgolion o ganlyniad i’r posibilrwydd o golli cyllid Horizon 2020—er enghraifft yr ymchwil pwysig sy’n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd i ymchwilio i’r hyn sy’n achosi dementia, salwch deubegynol a chlefydau pwysig eraill sy'n gysylltiedig â’r ffordd y mae’r ymennydd yn gweithio, a’r ffaith bod y rhain yn amlwg yn glefydau cyffredinol, ac mae angen rhannu’r canlyniadau rhwng yr holl genhedloedd. Felly, pwysigrwydd gallu, gobeithio, cynnal yr arweinyddiaeth honno ar draws Ewrop—yr arweinyddiaeth a’r cydweithio—a sut y gallwn wneud hynny wrth inni fwrw ymlaen â’r trafodaethau hyn.
Mae’r trydydd yn ymwneud â dyfodol ein diwydiant ffermio, yng ngoleuni'r ffaith ein bod yn dal i fewnforio 40 y cant o'n bwyd, a fydd, wrth gwrs, yn cynyddu yn sgil y gostyngiad aruthrol yng ngwerth y bunt yn erbyn arian gwledydd eraill, a pha gyfleoedd a all fod ar gael i ffermwyr yn sgil y bygythiad hwn er mwyn cynyddu cynhyrchu bwyd ac amaethyddiaeth fel nad oes yn rhaid wrth gymaint o fwyd drud wedi’i fewnforio.
Diolch ichi, Jenny Rathbone. Wrth gwrs, rydym newydd gael dadl—dadl lawn iawn—yn sgil y refferendwm, a gwnaeth y Prif Weinidog ddau ddatganiad ddydd Gwener ac, yn wir, unwaith eto ddoe, yn dilyn cyfarfod Cabinet Llywodraeth Cymru, yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Fel yr ydych yn amlwg yn gwybod, ac fel y trafodwyd y prynhawn yma, bydd yn cymryd amser i brosesu goblygiadau canlyniad y refferendwm yr wythnos diwethaf. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni gydnabod—mae hyn yn arbennig o bwysig i'ch cwestiynau—nad oes dim newid yn debygol o ddigwydd yn syth o safbwynt y gofynion rheoleiddio neu fuddsoddiadau a chyllid yr UE. Er enghraifft, mae materion fel y cynllun taliadau sylfaenol, buddsoddi, contractau cynllun Glastir—cânt eu hanrhydeddu—a rowndiau grant y Cynllun Datblygu Gwledig, sydd eisoes ar agor ac a fydd yn parhau. Felly, wrth gwrs, bydd gwybodaeth ar gael a bydd cyfleoedd i gael eglurhad pellach trwy ddatganiad a dadl, rwyf yn siŵr.
A gaf i ddiolch i’r rheolwr busnes am ei datganiad a diolch am newid busnes y Llywodraeth er mwyn caniatáu inni drafod heddiw ganlyniad y refferendwm yr wythnos diwethaf? Mae’n siŵr bod Aelodau yn parchu ac yn ddiolchgar am hynny. Oherwydd hynny, rydych chi wedi gohirio y ddadl roeddech chi am ei thrafod ynglŷn ag ailenwi’r Siambr—dim y Siambr; mae’r Siambr eisoes yn enw yn y Senedd—ailenwi’r sefydliad yn ‘Senedd Cymru’. A fedrwch chi gadarnhau, pan rydych chi’n dod nôl at y cynnig hwnnw, y byddwch wedi trafod ac wedi cymryd i ystyriaeth rai o’r gwelliannau a oedd eisoes yn cael eu trafod wrth i’r cynnig gael ei osod ar gyfer yr wythnos hon, ac felly y bydd hynny wedi symud ymlaen rhywfaint cyn trafod y cynnig yn enw’r Llywodraeth?
Ac yn ail, fe hoffwn i jest godi dau neu dri o bethau sydd yn deillio o’r drafodaeth rydym wedi ei chael heddiw ynglŷn â’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. A oes modd, os gwelwch yn dda, felly, gael datganiad yn weddol o glou—yn sicr cyn yr haf—ar y ffordd mae’r Llywodraeth yn ei gweld ymlaen ar gyfer perthynas y farchnad sengl a’r farchnad rydd—y ddwy berthynas bosibl i Gymru—y tu fewn i’r sefyllfa yma. Rwyf wedi gofyn eisoes i’r Prif Weinidog ynglŷn â lle rwy’n dod ohono fel aelod o’r ardal economaidd Ewropeaidd, ond byddai’n dda iawn cael datganiad ffurfiol gan y Llywodraeth ynglŷn â pha safiad mae’r Llywodraeth yn ei gymryd wrth inni fynd mewn i’r broses o negodi i adael yr Undeb Ewropeaidd, achos nid oes yr un o’r cwestiynau yma wedi eu hateb yn ystod yr awr a hanner diwethaf, yn sicr gan y bobl a oedd am adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yr ail ran o hynny yw: a oes modd cael datganiad, efallai gennych chi fel y prif reolwr busnes, ynglŷn â’r ffordd y gall y Cynulliad cyfan fod yn rhan o’r trafodaethau hynny? Eto, dywedodd y Prif Weinidog wrth ateb cwestiynau ei fod am weld pob plaid yn cymryd rhan yn y broses yna. Ond er bod gennym nes ymlaen heddiw ffordd o sefydlu pwyllgorau, efallai y dylem ni ofyn a oes angen rhyw ffordd fwy gwleidyddol, fwy pleidiol os liciwch chi, o ddod â phawb at ei gilydd er mwyn bod yn rhan o’r broses yna. A ydych chi wedi ffurfio barn eisoes, ac a oes modd cael datganiad yn gosod allan y ffordd rydych chi’n gweld hynny yn gweithio?
Y pwynt olaf hoffwn ei godi gyda chi yw’r un sy’n deillio’n uniongyrchol o’r profiad mae’n siŵr mae pob un ohonom yn ei gael ar hyn o bryd. Bûm mewn cyfarfod ddoe o’r fforwm camlesi yn y Drenewydd, lle mae yna gynllun i adfer yr hen gamlas drwy’r Drenewydd. Ac, wrth gwrs, dro ar ôl tro yn ystod y drafodaeth yma, roedd pobl yn trafod eu bod nhw yn mynd am arian Ewropeaidd i wneud hyn, ac roeddwn i eisiau camu’n ôl a dweud wrth bobl ‘Does dim arian Ewropeaidd yn mynd i fod ar gael mewn dwy flynedd, neu ddwy flynedd a hanner’—beth bynnag yw hi. Ond nid yw hynny wedi treiddio drwyddo eto—nid yw wedi suddo drwyddo. Ac mae’n siŵr fod pob un ohonom ni wedi cael sgyrsiau fel hyn gyda grwpiau sydd wedi dibynnu—fe allech chi ddweud wedi gorddibynnu efallai—ond maen nhw wedi dibynnu ar arian Ewropeaidd yn y gorffennol, ac nawr maen nhw eisiau bwrw ymlaen gyda chynlluniau sydd yn dal yn bwysig i’w cymunedau nhw ac sydd yn dal yn bwysig i dwristiaeth a thyfu yr economi. A gawn ni felly ddatganiad cyn yr haf, eto gan yr Ysgrifennydd dros yr economi—datganiad cynhwysfawr yn gosod allan yr holl gynlluniau sy’n cael eu hariannu ar hyn o bryd tu fewn i Gymru o dan arian Ewropeaidd, eu cyfnod nhw, pryd maen nhw’n debyg o ddod i ben a phryd mae disgwyl, pe bai cynllun yn cario ymlaen, i ail ffrwd gynllunio neu beth bynnag i ddechrau?
Mae eisiau i ni edrych ar hyn, rwy’n meddwl. Nes ymlaen wedyn, gallai fynd i bwyllgor a chael ei drafod yn iawn. Ond mae wir eisiau edrych a ‘scope-io’ effaith y ffaith y bydd y cronfeydd strwythurol a’r arian ESF yn dod i ben. Mae eisiau ‘scope-io’ hynny yn ofalus iawn, a byddai datganiad cynhwysfawr jest yn gosod allan er mwyn i edrych arno fe yn ffordd i bobl sylwi ar y broses yma, ac yn ail, wrth gwrs, wrth i ni ddechrau edrych ar y ffordd rydym yn negodi hynny, a’r ffordd rydym ni wedyn yn rhoi pwysau ar y bobl wnaeth ein harwain ni i’r sefyllfa yma i ddiogelu fod pob ceiniog yn dod i Gymru.
Diolch yn fawr, Simon Thomas. Credaf fod y chwe blaenoriaeth a nodwyd gan y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ddydd Gwener—y chwe blaenoriaeth hynny, unwaith eto, yw diogelu swyddi, chwarae rhan lawn yn y trafodaethau ynghylch y DU yn gadael yr UE—yn bwysig iawn, fel y dywedasoch—sicrhau bod y DU yn dal i allu bod yn rhan o’r farchnad sengl, cyd-drafod parhau i fod yn rhan o raglenni'r UE tan ddiwedd 2020, ac, wrth gwrs, gorfod gwneud y gwaith hwnnw yn awr, mewn ymateb i'ch cwestiwn olaf, er mwyn asesu beth mae hynny'n ei olygu o ran prosiectau sy’n ystyried ffordd ymlaen, nid dim ond—. Soniais wrth ymateb i Jenny Rathbone, am y rhaglen datblygu gwledig, a'r ffaith bod y cylch ceisiadau, wrth gwrs, wedi agor, ac rwyf yn siŵr bod eich etholwyr yn gofyn yr un cwestiwn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, sy’n amlwg yn gyfrifol o ran y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, yn asesu’r effeithiau hyn yn ofalus. Felly, yn amlwg, mae'r cyfrifoldebau sydd bellach yn cael eu rhannu gan Ysgrifenyddion y Cabinet ac yn cael eu harwain gan y Prif Weinidog, yn cael eu nodi’n glir o ran y ffordd ymlaen, ond mae'n rhaid inni, fel y dywedwch, sicrhau ein bod yn galluogi’r Cynulliad—y Cynulliad llawn, a chydnabod y pwyntiau pwysig hynny ynglŷn ag ymgysylltiad trawsbleidiol nawr—. Cyn bo hir, gobeithio, byddwn yn sefydlu ein pwyllgorau polisi a deddfwriaeth a bydd pwyllgor, yr wyf yn awr am ei alw’n seithfed pwyllgor polisi a deddfwriaeth—yr oeddem bob amser wedi rhagweld, beth bynnag fyddai canlyniad y refferendwm, y byddai angen iddo ystyried y sefyllfa ar ôl refferendwm yr UE ac ymgynghori ynghylch yr effeithiau—yn awr yn gallu nid yn unig ethol Cadeirydd a darparu aelodau trawsbleidiol, ond yn amlwg bydd angen iddo ddechrau arni a chwrdd cyn diwedd y sesiwn hon gyda rhaglen i mewn i’r hydref.
Felly, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o ymgysylltu, ac efallai y bydd y pwyllgor yn dymuno ymgysylltu nid yn unig o ran y Cynulliad a phryderon trawsbleidiol, ond y tu allan i'r Cynulliad hefyd ac wrth gwrs â’r rhanddeiliaid yn y cymunedau yr ydym yn ymgysylltu â hwy, ond hefyd edrych ar swyddogaeth bwysig Tŷ Cymru. Wrth gwrs, mae gennym eisoes, fel y mae'r Prif Weinidog wedi’i ddweud—. Mae’n sicrhau bod y tîm cyd-drafod hwnnw yno ym Mrwsel, a bydd angen, wrth gwrs, ymgysylltu’n gryf i sicrhau bod y Cynulliad yn ei gyfanrwydd yn deall pob cam ac yn cael gwybodaeth lawn ar bob cam, ond hefyd yn cyfrannu.
A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynglŷn ag ardrethi busnes? Yn sicr, rwyf wedi ymweld â nifer o fusnesau bach dros yr wythnos ddiwethaf ac mae llawer iawn o ansicrwydd. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, derbyniodd busnesau ryddhad ardrethi gwerth £1,500, ac yna y flwyddyn flaenorol roedd yn £1,000. Yn amlwg, mae angen i fusnesau wybod a ydynt am dderbyn y gyfradd honno yn y flwyddyn ariannol hon. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynlluniau ar gyfer ardrethi busnes, felly byddwn yn awyddus iawn pe gallem gael datganiad yn amlinellu beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyfer y pumed Cynulliad, ond yn enwedig ynglŷn â sut y bydd yn effeithio ar fusnesau yn y flwyddyn ariannol hon sydd i ddod.
Wel, wrth gwrs, Russell George, mae ansicrwydd mawr yn sgil y refferendwm a'r bleidlais i ‘adael’ yr wythnos diwethaf. Mae ansicrwydd aruthrol a fynegwyd, wrth gwrs, gan y canghellor heddiw, a fydd heb os yn effeithio ar Lywodraeth Cymru a chyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, wrth gwrs, mae'r rhain yn faterion lle rydym wedi gwneud ymrwymiadau clir ac wedi cyflawni’r ymrwymiadau clir hynny fel Llywodraeth Cymru, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, yn edrych yn ofalus iawn ar hynny. Ond yr ansicrwydd sydd wedi’i greu ers dydd Iau diwethaf a’r canlyniad fore Gwener sydd bellach yn llywio ein hystyriaethau. Ond mae angen i fusnesau fod yn glir iawn fod Llywodraeth Cymru’n eu cefnogi ac yn arbennig yn sicrhau ein bod yn gallu eu diogelu. Efallai fod angen inni roi sylw i rai o'r pwyntiau hynny a wnaethpwyd yn gynharach ynglŷn â lliniaru o ran effeithiau negyddol canlyniadau’r refferendwm.
Diolch i'r Gweinidog busnes am ei datganiad. Rwyf yn ailadrodd rhai o'r pethau yr ydym eisoes wedi sôn amdanynt yn y ddadl, ond credaf fod hyn yn arbennig o bwysig oherwydd, er y gallai llawer ohonom, yn fy marn i, yn ôl pob tebyg fod wedi gallu rhagweld nifer o oblygiadau pleidlais 'gadael' yn refferendwm yr UE, gan gynnwys y cynnydd brawychus a ffiaidd mewn ymosodiadau hiliol yr ydym wedi eu gweld ledled y DU ers y bleidlais honno—. Credaf fod nifer y digwyddiadau a gofnodwyd wedi cynyddu tua 57 y cant ers dydd Iau ar draws y DU a hyd yn oed yma yng Nghymru. Croesewir y ffaith bod comisiynwyr yr heddlu a throseddu wedi cyhoeddi datganiadau’n condemnio’r ymosodiadau hyn ac yn annog pawb i roi gwybod ar unwaith am unrhyw achosion o gam-drin hiliol y maent wedi’u dioddef neu wedi bod yn dyst iddynt. Er nad yw plismona, wrth gwrs, yn fater sydd wedi'i ddatganoli eto, mae mynd i'r afael â hiliaeth yn ein cymunedau yn flaenoriaeth i bob un o'n gwasanaethau cyhoeddus a’n cymdeithas. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog busnes ynglŷn ag unrhyw fesurau sy'n cael eu hystyried i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn ac i wrthwynebu unrhyw ddiwylliant o gasineb ac anoddefgarwch?
Wel, rwyf yn falch hefyd ein bod wedi cael cyfle arall, mewn ymateb i'ch cwestiwn ar y datganiad busnes y prynhawn yma, i’w gwneud yn glir iawn unwaith eto fod mynd i'r afael â throseddau casineb yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru. Ni fydd hiliaeth yn cael ei goddef yma yng Nghymru. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad cryf iawn ddoe a chafodd ei ailadrodd eto y prynhawn yma. Mae Gweinidogion wedi ei gwneud yn glir fod hiliaeth yn gwbl annerbyniol ac maent yn cydnabod, fel yr ydym i gyd, yr awyrgylch hyll sydd wedi’i greu yn dilyn refferendwm yr UE. Felly, mae'n rhaid inni, unwaith eto, sicrhau ein bod yn lledaenu’r neges fod yn rhaid i holl ddioddefwyr troseddau neu ddigwyddiadau casineb roi gwybod amdanynt. Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at ein comisiynwyr heddlu a throseddu i dynnu sylw at y materion a godwyd yn y gymuned. Ond hefyd, wrth gwrs, mae’r Gweinidog dros gymunedau a phlant yn rhoi arweiniad clir ar hyn ac mae wedi cyhoeddi datganiad pwysig iawn hefyd ddoe ynglŷn ag Wythnos y Ffoaduriaid. A chydnabod hefyd ein bod yn ariannu'r Ganolfan Adrodd a Chymorth Genedlaethol ar gyfer Troseddau Casineb trwy Cymorth i Ddioddefwyr Cymru a chydnabod bod gan y rhaglen cydlyniant cymunedol genedlaethol, yr ydym yn dal i’w chefnogi, gydlynwyr ar draws Cymru, yn monitro tensiynau ac yn gweithio'n lleol gyda phartneriaid i fynd i'r afael â throseddau casineb—mae cyfarfodydd yr wythnos hon.
Ond rwyf hefyd yn sylwi ar rywbeth yr oedd yn dda iawn ei gydnabod, sef bod Cymdeithas Pwyliaid Cymru, yn Llanelli, a dweud y gwir wedi cael llawer iawn o gefnogaeth a chydnabyddiaeth yno fod cefnogaeth gref iawn—'Diolch am fod yma bryd hynny...dal yn falch eich bod yma yn awr #PolesinUk '.
Tybed a fyddai modd inni gael datganiad ynglŷn â lefelau diogelwch yn Tata Steel? Dywedaf hyn am fy mod wedi clywed rhai pryderon, yn y lle cyntaf gan etholwyr, o ran agweddau ar ddiogelwch gyda'r swyddi sy’n cael eu torri yno, ond mae wedi troi mewn gwirionedd yn ffrydlif gan etholwyr sy'n gweithio yn Tata Steel. Tybed a gawn ni ddatganiad i ddeall a yw'r Llywodraeth wedi bod yn siarad ag undebau llafur am y sefyllfa? Mae gennyf restr o gwynion, os yw'r Gweinidog neu un o'i chydweithwyr yn dymuno ei gweld, sy'n amlygu’r rheswm pam rwyf yn codi hyn yma heddiw yn y modd hwn.
Mae’r ail fater yr wyf am ei godi yn ymwneud â’r cwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn credu imi gael ateb y naill ffordd na’r llall gennych o ran rhoi gwybod a gawn ni ddatganiad am awtistiaeth ac anghenion ôl-addysgol y rhai sydd wedi gadael yr ysgol. Mae'n sefyllfa frys. Roedd gan Leighton Andrews, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog addysg, dasglu yn ystyried y ddarpariaeth ar gyfer y rhai sydd wedi gadael yr ysgol, ac mae llawer iawn, iawn o deuluoedd yn fy ardal i, ac ar draws Cymru rwyf yn siŵr, sy'n wynebu dyfodol ansicr pan fydd eu plant yn gadael yr ysgol—diffyg gwasanaethau, diffyg cyfeiriad a diffyg llwybr clir. Felly, byddwn yn pwyso, unwaith eto am ddatganiad neu ddadl am y mater penodol hwnnw cyn i'n tymor ddod i ben a chyn i dymor yr ysgol ddod i ben.
Diolch ichi, Bethan Jenkins. Credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod Tata Steel wedi datgan mai ei brif flaenoriaeth yw diogelwch ac iechyd pawb sy'n gweithio yn y grŵp a chyda’r grŵp. Mae'n safle COMAH 1—rheoliadau rheoli peryglon damweiniau mawr; caiff ei reoleiddio’n drwm, wrth gwrs, fel y byddwch yn cydnabod, o ran iechyd a diogelwch. Ond fy nealltwriaeth i yw bod yr undebau wedi bod yn trafod y mater hwn gyda Tata Steel—mae’n rhwymedigaeth statudol arno i gydymffurfio â’r rheoliadau a'r safonau hynny a osodwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac maent yn trafod y materion hyn â’r undebau.
O ran eich ail bwynt, wrth gwrs clywais eich cwestiwn yr wythnos diwethaf. Holais ymhellach i weld beth yw’r ffordd fwyaf priodol y gallwn ymateb ac rwyf yn cydnabod hefyd, wrth gwrs, fod mater penodol o ran un agwedd ar yr ymatebion hollbwysig ar draws y Llywodraeth, nid dim ond o ran addysg, ond o ran iechyd a lles yn ogystal, wrth edrych ar ein hymateb i awtistiaeth.
Credaf fod Bethan wedi codi pwynt allweddol ynglŷn â phontio i bobl ag awtistiaeth ac mae'n broblem hirsefydlog —rhywbeth yr wyf wedi cael llawer o waith achos yn ei gylch, ond hefyd mae wedi codi dro ar ôl tro gyda grwpiau awtistiaeth trawsbleidiol dros sawl Cynulliad. Ar y thema honno, galwaf am ddatganiad ynglŷn â chynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth ar ei newydd wedd a'r cynigion ar gyfer gwasanaeth awtistiaeth cenedlaethol i Gymru. Cafodd y rhain eu lansio ar ddydd Gwener ychydig wythnosau cyn diddymu’r Cynulliad diwethaf, ac nid yw’r Cynulliad hwn wedi cael cyfle eto i drafod y drafft na'r ymgynghoriad a lansiwyd yn ei sgil, nac i graffu arnynt.
Er bod integreiddio iechyd, cyflogaeth, addysg a gwasanaethau cymdeithasol i’w groesawu, mae pryder o hyd yn y gymuned awtistiaeth fod y diffyg cefnogaeth statudol yn golygu efallai na fydd yn sicrhau’r newid yr ydym i gyd am ei weld ar gyfer plant, oedolion a'u teuluoedd ar y sbectrwm awtistiaeth; pryder ynghylch y £6 miliwn dros dair blynedd—mae hynny’n £2 filiwn bob blwyddyn; ai arian newydd ydyw ynteu arian sy'n bodoli eisoes ac sy’n cael ei ailgyfeirio: nid ydym yn gwybod; pryder y bydd yr amseru’n llithro heb gyllid digonol, ac na fydd yn cyflawni, heb gefnogaeth statudol, yr addewidion y mae'n eu gwneud; a phryder hefyd na fyddai pobl, er enghraifft yn y gogledd, yn gallu elwa ar y gwasanaethau y mae'n eu cynnig tan ddiwedd 2018. Nodir hefyd fod yr adroddiad y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n bwrw ymlaen ag ef gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â’r gwasanaeth cenedlaethol newydd yn llawn ‘dylai’ yn hytrach na ‘rhaid’ ac y gallai hyn barhau i gael ei ddehongli'n wahanol rhwng byrddau iechyd gwahanol a diffyg manylion ynglŷn â sut y byddai byrddau iechyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol. Mae angen rhoi cyfle i’r Cynulliad graffu ar y cynnig allweddol hwn a’i drafod.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar Iaith Arwyddion Prydain? Efallai y bydd y Gweinidog yn gwybod bod yr Alban wedi cyflwyno deddfwriaeth ar hyn, a bod Gogledd Iwerddon hefyd yn edrych yn agos iawn ar y ddeddfwriaeth honno yn yr Alban. Bydd deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a’r ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, yn gorfodi cydraddoldeb o ran darparu gwasanaethau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Felly, bydd mwy o alw am Iaith Arwyddion Prydain er mwyn i ddarparwyr allu gohebu a chyfathrebu â defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain ar draws pob gwasanaeth: iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol ac fel arall, a hefyd sicrhau bod offer cyfathrebu sy'n addas i bobl fyddar ar gael ym mhob lleoliad sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus. Felly, yn y cyd-destun hwnnw —yng nghyd-destun deddfwriaeth eich Llywodraeth chi eich hun ac yng nghyd-destun y datblygiadau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran Iaith Arwyddion Prydain—galwaf am ddatganiad.
Diolch ichi am eich cwestiynau. O ran y pwynt cyntaf, wrth gwrs, fel y dywedwch, roedd ymgynghoriad ar gynllun gweithredu Cymru ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd yn y cyfnod cyn etholiadau'r Cynulliad. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw, wrth gwrs, yn cael eu cyhoeddi, a bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi hefyd yn ddiweddarach eleni. Dyma £6 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog i ariannu cynllun gweithredu Cymru ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd, ac mae'n hollbwysig ein bod yn symud ymlaen yn hynny o beth i ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd.
O ran eich ail bwynt, wrth gwrs, mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran sicrhau bod Iaith Arwyddion Prydain ar gael ac mae llawer o hynny, hefyd, wedi bod yn sgil cyfraniad y cydweithio rhwng grwpiau trawsbleidiol yn ogystal ag ymateb Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae cyfleoedd yn awr i fwrw ymlaen â hyn yn sgil ein deddfwriaeth ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i wneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny.
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar ddyfodol gwaith glo brig Nant Helen ger Ystradgynlais? Yn dilyn y cyhoeddiad fod gorsaf bŵer Aberddawan am israddio ei gweithrediadau o fis Ebrill nesaf, cyhoeddodd Celtic Energy yr wythnos diwethaf y gallai Nant Helen gael ei rhoi o'r neilltu, gan arwain at 90 o ddiswyddiadau. Ym mis Hydref, penderfynodd y cwmni roi o’r neilltu safle Selar gerllaw, lle collodd 70 o bobl eu swyddi. Fel y gwyddoch, mae hwn yn gyfnod ansicr ac ansefydlog i weithwyr ac i’r gymuned honno, a fydd yn awyddus i gael eglurder a sicrwydd yn awr.
Rwyf yn falch bod hyn wedi ei godi y prynhawn yma, oherwydd mae hyn yn rhywbeth, wyddoch chi, lle y mae angen ymdrin â’r ansicrwydd hwnnw. Mae'r cwmni wedi dechrau ymgynghori ag undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, a bydd Joyce Watson yn gwybod am hynny. Gallai’r ymgynghoriad hwnnw weld y gweithlu’n lleihau, ond fel yr wyf yn deall, mae cyllid adfer wedi bod yn cronni ar safle Nant Helen, a bydd yr awdurdod cynllunio lleol a’r cwmni yn gallu cadarnhau’r sefyllfa ddiweddaraf, ond rwyf ar ddeall y dylai fod modd rheoli’r gwaith o adfer y safle.
Arweinydd y tŷ, tybed a gawn ni’r wybodaeth ddiweddaraf neu ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran cytundeb y ddinas? Gwyddom y bu cryn bryder yn dilyn canlyniad y refferendwm diweddar ynghylch y cyllid, yn enwedig y cyllid Ewropeaidd, a fydd yn mynd tuag at gytundeb y ddinas. Mae hyn yn cynnwys nifer fawr o awdurdodau lleol, yn fy ardal i ac yn ne-ddwyrain Cymru. Mae pobl yn pryderu a gwn y bydd yn rhaid aros am eglurder ynghylch ein sefyllfa o ran ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, ond credaf ei bod yn bwysig bod yr awdurdodau lleol hynny a strwythur cytundeb y ddinas yn cael rhywfaint o arweiniad gan Lywodraeth Cymru o ran yr agweddau hynny ar gytundeb y ddinas y gellir eu gweithredu yn y tymor canolig.
Wel, credaf, Nick Ramsay, ein bod yn rhannu pryderon am ragolygon a dyfodol cytundeb y ddinas, sy’n hollbwysig, a gwn fod eich awdurdod lleol yn gefnogol iawn ohono ac wedi bod yn rhan o sicrhau ein bod yn ennill ac wedi sicrhau’r cais hwnnw sy’n cynnwys y 10 awdurdod lleol. Mae hyn, wrth gwrs, hefyd yn rhywbeth lle rydym yn disgwyl am ymateb gan y Canghellor yn ogystal â’r effaith ar ôl y penderfyniad i adael yr UE, ond credaf fod yr ymrwymiad clir yn eich cyfraniad heddiw yn bwysig iawn o ran cydnabod pwysigrwydd allweddol cytundeb y ddinas i’r rhanbarth hwn, y rhanbarth yr ydych yn rhan ohono, i'n heconomi ac i les y rhanbarth hwnnw.
Diolch, Weinidog.