Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 28 Mehefin 2016.
Rwyf yn falch bod hyn wedi ei godi y prynhawn yma, oherwydd mae hyn yn rhywbeth, wyddoch chi, lle y mae angen ymdrin â’r ansicrwydd hwnnw. Mae'r cwmni wedi dechrau ymgynghori ag undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, a bydd Joyce Watson yn gwybod am hynny. Gallai’r ymgynghoriad hwnnw weld y gweithlu’n lleihau, ond fel yr wyf yn deall, mae cyllid adfer wedi bod yn cronni ar safle Nant Helen, a bydd yr awdurdod cynllunio lleol a’r cwmni yn gallu cadarnhau’r sefyllfa ddiweddaraf, ond rwyf ar ddeall y dylai fod modd rheoli’r gwaith o adfer y safle.