Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch, Lywydd. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi blwyddyn gyntaf ein rhaglen ddeddfwriaethol. Yn y tymor Cynulliad hwn byddaf yn gwneud datganiad blynyddol, gan nodi'r ddeddfwriaeth sylfaenol y bydd y Llywodraeth yn ei chyflwyno dros y 12 mis nesaf. Mae symud o raglen bum mlynedd i raglen a datganiad blynyddol yn un cam i ddatblygu ein harferion i sicrhau eu bod yn gweddu i gyfrifoldebau seneddol y lle hwn. Fel y dywedais yn fy natganiad ar 18 Mai, ni fyddwn yn cyflwyno deddfwriaeth newydd yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Cynulliad hwn, ac rydym yn cadw at yr ymrwymiad hwn. Bydd datganiad heddiw yn hysbysu Aelodau a'r cyhoedd am y meysydd polisi cyhoeddus lle y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn gyntaf. Bydd y gwaith yn dechrau o ddifrif ar ôl toriad yr haf.
Y cyntaf o'r meysydd hyn yw trethiant. Mae hyn yn cynrychioli cyfnod newydd ac arwyddocaol i ddatganoli yng Nghymru. Fel y gŵyr Aelodau, roedd Deddf Cymru 2014 yn datganoli pŵer i'r Cynulliad hwn i wneud deddfwriaeth sylfaenol ynglŷn â rhai trethi datganoledig. Gwnaethom osod y sylfeini gweinyddol yn y Cynulliad diwethaf gyda Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a sefydlodd Awdurdod Refeniw Cymru, sydd nawr yn y broses o gael ei greu. Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno dau Fil i sefydlu'r ddwy dreth a ddatganolir i Gymru o fis Ebrill 2018 ymlaen: treth trafodiadau tir a threth gwaredu tirlenwi ar gyfer Cymru. Drwy'r ddeddfwriaeth hon, byddwn hefyd yn ceisio sefydlu rheol gyffredinol gwrth-osgoi ar gyfer trethi datganoledig yng Nghymru. Bydd y biliau hyn yn nodi dechrau perthynas newydd rhwng trethdalwyr Cymru, Llywodraeth Cymru a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, gan gryfhau'r cyswllt rhwng trethi a godir yng Nghymru ac arian a warir ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. O'n rhan ni, Llywodraeth Cymru fydd yn gwbl gyfrifol ac yn gwbl atebol am godi rhai trethi yng Nghymru; ni fyddwn mwyach yn dibynnu’n unig ar grant bloc Cymru a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Mae hynny, wrth gwrs, yn gam sylweddol ymlaen i’r genedl. Bydd gennym ymagwedd agored a thryloyw at graffu ar y ddeddfwriaeth hon, a byddwn yn gwrando'n ofalus ar farn yr Aelodau a rhanddeiliaid. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad llafar am ddatganoli treth yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.
Lywydd, mae’r Bil ar y dreth trafodiadau tir yn ddarn hir, technegol a chymhleth o ddeddfwriaeth. I gynorthwyo Aelodau, y sector a'r cyhoedd i ymgyfarwyddo â’r Bil hwn, byddwn yn cyhoeddi drafft sydd bron yn derfynol o’r Bil cyn toriad yr haf, cyn ei gyflwyno yn yr hydref.
Lywydd, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu adrannau o Ddeddf Undebau Llafur ddinistriol Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig. Gwrthododd y pedwerydd Cynulliad ganiatâd i Lywodraeth y DU i ddeddfu yn y meysydd hynny, ond aeth y Llywodraeth yn ei blaen i’w gorfodi ar Gymru. Nid yw hynny'n dderbyniol. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus drwy bartneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur a chyflogwyr yn y sector cyhoeddus. Rydym wedi dweud erioed bod rhannau sylweddol o ddeddfwriaeth y DU yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau cyhoeddus sy’n amlwg wedi eu datganoli, ac, er bod Llywodraeth y DU wedi gwneud nifer o gonsesiynau i sicrhau’r Ddeddf, mae rhai darpariaethau allweddol yn parhau i fod yn sylfaenol niweidiol i Gymru. Bydd ein deddfwriaeth yn ceisio datgymhwyso’r rhannau hyn ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.
Lywydd, i sicrhau gwelliannau i iechyd pobl, byddwn yn ailgyflwyno Bil iechyd cyhoeddus. Er nad oedd hi’n bosibl yn y Cynulliad diwethaf i ddod i gytundeb ar ddarpariaethau sy'n ymwneud â chyfyngiadau ar ddefnyddio e-sigaréts, roedd y Bil yn cynnwys nifer fawr o gynigion y cafwyd consensws trawsbleidiol arnynt. Byddwn, felly, yn cyflwyno’r Bil iechyd cyhoeddus fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 3 yn y Cynulliad diwethaf, ond heb y cyfyngiadau ar ddefnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeedig.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth i ddarparu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc, o'u genedigaeth hyd at 25 mlwydd oed, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Buom yn ymgynghori ynghylch Bil drafft anghenion dysgu ychwanegol a thribiwnlys addysg y llynedd. Rydym wedi gwrando ar yr adborth gan randdeiliaid, ac rydym wedi ystyried yr ymatebion yn ofalus. Cyflwyno'r Bil fydd y cam nesaf yn y broses o ddiwygio'r system bresennol a chyflawni gwelliannau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i ddiddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael. Mae’n rhaid inni warchod ein stoc tai cymdeithasol yng Nghymru a sicrhau eu bod ar gael i bobl sydd eu hangen ac nad ydynt yn gallu cael llety drwy fod yn berchenogion tŷ neu drwy’r sector rhentu preifat. Mae angen inni adeiladu mwy o gartrefi, ac mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gyflwyno 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ond mae’n rhaid inni hefyd ymdrin â'r pwysau ar ein stoc tai cymdeithasol presennol. Bydd y Bil hwn yn ceisio diogelu’r stoc hwnnw rhag gostyngiadau pellach. Y gyfatebiaeth yr wyf wedi’i defnyddio o'r blaen yw bod hyn fel ceisio llenwi'r bath â’r plwg allan.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon, byddwn yn cyflwyno chwe Bil. Mae ein cynigion deddfwriaethol yn cynnwys sefydlu trethi datganoledig i Gymru, gwella iechyd y cyhoedd, a diwygio cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r Aelodau yn y Senedd hon a gyda chymunedau a rhanddeiliaid, wrth inni ddatblygu ein rhaglen ddeddfwriaethol eleni, i sicrhau bod y deddfau a wnawn yng Nghymru cystal ag y gallant fod ar gyfer y bobl ledled y wlad hon. Lywydd, cymeradwyaf, felly, y rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Cynulliad.