Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 28 Mehefin 2016.
Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies ac, yn wir, Simon Thomas, ynglŷn â’r Bil awtistiaeth, mae UKIP o blaid hynny, felly mae gennym gonsensws trawsbleidiol gwirioneddol yn y Cynulliad hwn ar hynny o leiaf. Ni allaf ddweud yr un peth am bopeth arall yn y datganiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud y prynhawn yma.
O ran datganoli trethi, yn bersonol dydw i ddim yn gwrthwynebu hynny; mae gwahaniaeth barn o fewn UKIP ar y pwnc hwn, ond serch hynny rwyf i’n bersonol o blaid cystadleuaeth treth rhwng awdurdodaethau. A gallwn weld yr effeithiau buddiol pwysig y mae hynny wedi’i gael yng Ngweriniaeth Iwerddon, lle'r oedd ganddynt gyfraddau treth gorfforaeth synhwyrol a arweiniodd at lawer o wasanaethau ariannol yn symud i Ddulyn. Ar y llaw arall, gallwn weld beth ddigwyddodd pan benderfynodd y Llywodraeth sosialaidd yn Ffrainc osod cyfradd treth incwm 75 y cant, ac mae hynny wedi gyrru nifer enfawr o weithwyr proffesiynol i Ddinas Llundain. Felly, beth bynnag sy'n digwydd yn y pen draw—ac rydym yn gresynu’r ffaith na fydd refferendwm ar y mater hwn, fel yr addawyd—ond beth bynnag sy'n digwydd yn y pen draw ynglŷn â ffurf datganoli trethiant yng Nghymru, mae'n bwysig iawn, rwy’n credu, ein bod yn gweld hyn yng nghyd-destun yr amgylchedd busnes lle mae’n rhaid i’r bobl sydd wir yn creu swyddi yn y wlad hon weithio—yn y sector preifat. A byddai unrhyw beth sy'n helpu i wneud Cymru’n lleoliad llai deniadol ar gyfer buddsoddiad ac i bobl ddod i fyw a gweithio ynddo yn wrthgynhyrchiol iawn i fuddiannau Cymru.
Yn yr un modd, o ran y math o reoleiddio—ac rydym wedi siarad mewn termau cyffredinol am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd o ganlyniad i Brydain adael yr UE—mae’r amgylchedd busnes fel y'i crëwyd gan y rheoliadau y mae'n rhaid i fusnesau eu dilyn yn rhoi cyfle arall inni, mewn gwirionedd, i wneud Cymru’n lle llawer mwy deniadol i fuddsoddi ac i weithio ynddo. Bydd yn dasg hynod o gymhleth i ddatrys, diwygio ac yn wir penderfynu beth i’w gadw o 43 mlynedd o reoliadau a chyfarwyddebau. Mae rhywfaint ohono’n ddeddfwriaeth ddirprwyedig ond mae llawer ohono nad ydyw—mae rheoliadau, wrth gwrs, yn gymhwysiad uniongyrchol, ac iaith yr UE yw iaith y rheini. Felly, bydd yn rhaid i lawer o hynny newid, ond mae'n rhoi cyfle inni i leihau'r baich rheoleiddiol. Ac yn y cyd-destun hwn, rwy'n siomedig o weld y datganiad yn disgrifio'r dreth trafodiadau tir fel un hir, dechnegol a chymhleth. Ac mae'n rhaid imi ofyn, o ystyried bod treth stamp yn y Deyrnas Unedig yn codi rhan gymharol fach o'r refeniw cyhoeddus—mae cyfaddawd rhwng cymhlethdod deddfwriaeth a'r budd i'r trysorlys. Mae maint y cod treth yn y Deyrnas Unedig wedi dyblu ers 1997, ac eto yn aml iawn does dim llawer o fudd iddo, os oes unrhyw fudd o gwbl, i'r cyhoedd yn gyffredinol. Y pwynt am osgoi yw y bydd cyfreithwyr clyfar bob amser yn ceisio dod o hyd i ffordd o osgoi deddfwriaeth treth, a pho fwyaf cymhleth ydyw, y mwyaf o fylchau sy’n cael eu creu. Rwy’n siarad fel cyfreithiwr treth fy hun, felly rwy'n siŵr y bydd y proffesiwn cyfreithiol a chyfrifyddu’n rhwbio eu dwylo’n llawen wrth feddwl am fwy o'r math hwn o ddeddfwriaeth. Ond byddwn yn sicr yn cymryd agwedd adeiladol ond beirniadol tuag at bob deddfwriaeth o'r math hwnnw.
Mae i'w ddisgwyl, mae'n debyg, y dylai fod deddfwriaeth ym maes undebau llafur; wedi'r cyfan, yr undebau llafur sy’n ariannu'r Blaid Lafur i raddau helaeth ac mae’n rhaid i rywun gyflawni unrhyw fargeinion sydd wedi’u taro. Ond mae ei ddisgrifio fel 'niweidiol', rwy’n meddwl, yn rhoi'r cliw ynglŷn â’r gwir bwrpas y tu ôl i hyn. Roedd y diwygiadau undebau llafur yn yr 1980au, yr oeddwn yn meddwl bod y Blaid Lafur wedi’u derbyn, mewn gwirionedd yn rhan hynod bwysig o droi Prydain oddi wrth fethiant llwyr ein heconomi yn yr 1970au i'r economi fodern lwyddiannus a fu gennym yn y wlad hon ers 25 neu 30 mlynedd, er gwaethaf problemau yn y blynyddoedd diwethaf yn sgil yr argyfwng ariannol. Nid wyf yn meddwl y cawn ni ryw lawer o gytundeb ynglŷn â’r ddeddfwriaeth undebau llafur.
Ond o ran y ddeddfwriaeth hawl i brynu, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei wrthwynebu gan nad yw cadw tai am genedlaethau mewn gwirionedd yn helpu pobl ag angen tai cymdeithasol—yn aml iawn, pobl heb unrhyw angen cymdeithasol sy’n byw yn y tai hyn. Wedi'r cyfan, clywsom fod Frank Dobson, a oedd yn aelod o'r Cabinet Llafur, yn byw mewn fflat cyngor yn St Pancras ar rent bychan iawn. Pe byddai hwnnw wedi’i ryddhau ar gyfer tai cymdeithasol gwirioneddol, yna, wrth gwrs, gallai fod wedi diwallu angen gwirioneddol i rywun. Roedd Bob Crow yn un arall a fu’n byw mewn tŷ cyngor ar hyd ei oes ac yn ymfalchïo yn y ffaith, ac eto roedd yn cael ei dalu, fel ysgrifennydd cyffredinol undeb llafur, ymhell dros £100,000 y flwyddyn. Nid yw'r rhain, o dan unrhyw gyfrif, yn bobl ag angen tai cymdeithasol. Yn wir, maent yn cyfateb i bobl sy’n blocio gwelyau, ac maent yn atal pobl â gwir angen am dai cymdeithasol rhag cael cyfle i fod â tho uwch eu pennau. O ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hawl i brynu, mae miliynau o bobl yn y wlad hon wedi cael yr un rhyddid ag a fu gan bawb arall ers cenedlaethau, ac fe wnaeth eu rhyddhau o diwtoriaeth awdurdodau dan reolaeth Llafur a oedd eisiau’r rheolaeth wleidyddol y byddai perchnogaeth stoc tai yn ei rhoi iddynt. Felly, mae hwn yn gam yn ôl mewn amser, a bydd UKIP yn sicr yn gwrthwynebu hynny.
Ond mae yna Filiau eraill, ym maes iechyd y cyhoedd ac yn achos anghenion dysgu ychwanegol, yr wyf yn siŵr y byddant yn ennyn cymeradwyaeth a pharch cyffredinol o bob rhan o'r Cynulliad hwn. Gallaf roi croeso cynnes i rannau o'r rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig hon. Ni fyddwn mor garedig tuag at eraill. Ond fel y dechreuais drwy ddweud pan ddaethom i’r Cynulliad hwn yn gyntaf, byddwn yn chwarae rhan adeiladol yn y dadleuon a’r trafodaethau ac yn helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo yn sgil y ddeddfwriaeth yr ydym yn ei rhoi drwodd.