7. 7. Datganiad: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 4:42, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, gallaf sicrhau arweinydd UKIP nad oes neb yn fy etholaeth i sy'n byw mewn tŷ cymdeithasol ac yn ennill £100,000 y flwyddyn. Gallaf warantu cymaint â hynny. Yr ymateb a roddaf iddo am yr hyn a ddigwyddodd yn—mae'n sôn am un rhan o Lundain—yw Wandsworth a'r hyn a wnaethpwyd yno, lle cafodd pobl eu gorfodi allan o dai a fflatiau a lle cafodd y tai a’r fflatiau hynny wedyn eu gwerthu am elw enfawr i'r cyngor, i geisio llunio ardal yn gymdeithasol er budd gwleidyddol. Dyna sut y digwyddodd yn Wandsworth. Edrychwch, os yw pobl yn dymuno prynu tŷ, mae ganddynt hawl i wneud hynny, ond ni ddylent brynu tŷ sydd yna’n cael ei dynnu’n ôl o ran bod ar gael i bobl ag angen tai cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael wedi arwain at ddiffyg enfawr yn nifer y tai sydd ar gael i bobl. Am flynyddoedd lawer iawn, roedd cynghorau mewn gwirionedd wedi’u gwahardd rhag adeiladu tai cyngor a rhag gwneud iawn am y diffyg a oedd yn cael ei greu drwy werthu’r tai. Dyna pam mae gennym sefyllfa lle’r ydym yn ceisio dal i fyny drwy’r amser. Ni allwn ddal i fyny a darparu digon o dai i’n pobl os ydym yn gyson yn gwerthu tai ar yr un pryd, ac yn gweld, fel y mae Lloegr yn ei weld, nad yw’r swm o arian yr ydym yn ei gael fel rhan o'r gwerthu hwnnw yn ddigon i gael tŷ arall yn ei le drwy adeiladu tŷ newydd. Dyna'r ddadl y byddwn yn ei chael, rwy'n siŵr, yn y dyfodol, wrth i’r ddeddfwriaeth hon ddatblygu.

O ran treth trafodiadau tir—y dreth stamp—mae'n amlwg yn dreth sy’n mynd i gael ei datganoli. Hoffem ddefnyddio hynny yn y ffordd fwyaf adeiladol posibl cyn belled ag y mae’r sector adeiladu dan sylw. Maent wedi bod yn rhan bwysig o'r trafodaethau yr ydym wedi bod yn eu cael. O ran biwrocratiaeth, mae'n stori gyfarwydd pan fydd pobl yn dweud, 'Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw lleihau biwrocratiaeth’, ond ni fyddant byth yn nodi beth y maent yn ei olygu wrth 'fiwrocratiaeth'. Un o'r pethau y mae’n rhaid inni ei ddeall yw, oni bai am yr UE—down yn ôl at hyn mewn eiliad— byddai amgylchedd Prydain mor wenwynig ag yr oedd yn yr 1970au a'r 1980au. Yr Undeb Ewropeaidd a lusgodd Prydain allan o'r syrthni yr oedd ynddo bryd hynny, lle y byddai un o'r afonydd yn Swydd Efrog yn mynd ar dân pe byddech yn taflu matsien i mewn iddi. Y gwir yw bod llawer o'r ddeddfwriaeth amgylcheddol wedi bod yn rym er daioni, ac mae pobl yn ei gwerthfawrogi ac eisiau gweld amgylchedd o'u cwmpas nad yw wedi’i wenwyno’n ddiangen.

Cefais fy magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle'r oedd yr afon yn arfer bod yn lliwiau gwahanol gan ddibynnu beth oedd wedi’i daflu iddi yn uwch i fyny: du os mai’r pyllau glo; os oedd Revlon wedi taflu minlliw i mewn, yn eithaf aml byddech yn gweld hynny; weithiau, byddai rhai o'r gweithfeydd i fyny yno’n taflu llifyn i mewn a byddai'n edrych yn goch, gwyrdd—unrhyw liw yr hoffech. Nid yw hynny’n digwydd bellach. Nid yw honno'n sefyllfa yr hoffem ddychwelyd ati. Rwy'n clywed yr hyn y mae’n ei ddweud, wrth gwrs, am ei awydd i chwarae rhan adeiladol ac rydym yn edrych i weld beth fydd canlyniad hynny yn ystod y flwyddyn nesaf.