Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hon yn adeg arbennig o briodol i nodi cyfraniad ein lluoedd arfog i amddiffyn ein gwlad a’n ffordd o fyw. Eleni mae’n ganmlwyddiant dau o frwydrau pwysicaf y rhyfel byd cyntaf. Roedd brwydr Jutland yn drobwynt yn y rhyfel ar y môr a enillwyd ar gost o 8,500 o fywydau. Yn Ffrainc, roedd brwydr y Somme yn allweddol i gwrs y rhyfel ac, yn arbennig yng Nghoedwig Mametz, rhoddodd nifer fawr o filwyr o Gymru eu bywydau. Bydd y Prif Weinidog yn cynrychioli pobl Cymru yn y gwasanaeth coffa cenedlaethol yng Nghoedwig Mametz ar 7 Gorffennaf i anrhydeddu'r rhai a roddodd eu bywydau. Rwyf hefyd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at y gofeb a godwyd i nodi dewrder ac aberth y 38ain Adran (Gymreig) yng Nghoedwig Mametz. Byddwn yn parhau i nodi digwyddiadau pwysig y rhyfel byd cyntaf trwy ein rhaglen Cymru'n Cofio Wales Remembers: 1914-1918.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi a chyfrannu at ddigwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog a gynhelir yng ngogledd a de Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i bobl Cymru i ddangos eu gwerthfawrogiad a'u diolchgarwch i'r rhai hynny sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd ac i'n cyn-filwyr. Maent hefyd yn rhoi cyfle i'r genhedlaeth iau i ddysgu am aberth ein milwyr wrth amddiffyn ein rhyddid a gwerthfawrogi’r aberth hwnnw. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu cymorth a gwasanaethau parhaus i gymuned bresennol ein lluoedd arfog, ac rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid allweddol ac wedi gwrando arnynt ac rydym wrthi’n ailwampio ein pecyn cymorth. Bydd hefyd yn awr yn cynnwys dogfen ar wahân ar gyfer ein personél sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd, o’r enw 'Croeso i Gymru'. Bydd y ddwy ddogfen allweddol hyn yn nodi’r cymorth sydd ar gael ar draws portffolios gweinidogol, a sefydliadau cymorth fel y Lleng Brydeinig Frenhinol a Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin. Byddaf yn lansio’r dogfennau hyn yn ffurfiol yn gynnar yn yr hydref.
Mae’r Aelodau eisoes yn gwybod am bwysigrwydd cerdyn braint y lluoedd arfog. Hyd yma, mae cynnydd o 89.14 y cant wedi bod yn nifer aelodau’r gwasanaeth o gymharu â 38 y cant yng ngweddill y DU—gwahaniaeth sylweddol. Byddwn yn parhau i weithio gyda gwasanaeth braint y lluoedd arfog i hyrwyddo manteision y cerdyn ac yn ceisio annog corfforaethau i ymrwymo i’r cerdyn.
Mae iechyd a lles ein personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a’n cyn-filwyr o'r pwys mwyaf inni. Byddwn yn darparu, ac rydym wedi darparu, £100,000 i ddatblygu cynllun nofio am ddim ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Byddwn yn parhau i ddarparu £585,000 y flwyddyn i gynnal gwasanaeth unigryw GIG Cymru i Gyn-filwyr, a byddwn yn archwilio opsiynau i wella profiad cyn-filwyr sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl trwy weithio gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr i sicrhau bod y llwybr gofal presennol yn parhau i fodloni anghenion amrywiol y bobl hynny y mae angen y gwasanaethau arnynt.
Cyhoeddodd y cyn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes y byddai diystyriad uwch o £25 yn gymwys, o fis Ebrill eleni, i bensiynau anabledd rhyfel a dderbynnir gan gyn-filwyr wrth asesu eu cyfraniad at unrhyw gostau gofal y mae’n rhaid iddynt eu talu. O 2017, byddwn yn llwyr ddiystyru’r taliadau hynny wrth asesu costau gofal.
Mae llawer iawn o waith da’n cael ei wneud ledled Cymru. Eisoes, mae gan yr holl awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau cyhoeddus eraill hyrwyddwyr cyfamod ar waith, sy’n darparu gwasanaethau a chymorth i gymuned y lluoedd arfog ledled Cymru. Un enghraifft dda o’r ffordd y mae gweithio gyda'n gilydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yw Tŷ Dewr yn Wrecsam. Cartref a adeiladwyd yn bwrpasol i gyn-filwyr yn Wrecsam sy'n cael anawsterau yn eu bywydau yw Tŷ Dewr. Mae awdurdod lleol Wrecsam, mewn partneriaeth â Tai Dewis Cyntaf a chyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, wedi darparu llety diogel i gyn-filwyr i'w helpu i ailadeiladu eu hyder a'u bywydau. Gan adeiladu ar fentrau fel y rhain, rydym yn datblygu llwybr atgyfeirio tai. Bydd hyn yn galluogi cyn-filwyr a'u teuluoedd i wneud dewis ar sail gwybodaeth ynglŷn â pha opsiwn sydd fwyaf priodol ar eu cyfer. Rwyf yn disgwyl y bydd y gwaith hwnnw hefyd wedi ei gwblhau erbyn dechrau'r hydref.
Rydych wedi clywed bod gweithio ar y cyd a rhannu arfer da wedi arwain at fentrau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau ein personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a chyn-filwyr. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sefydliadau sy’n bartneriaid inni drwy gynnal cynhadledd cyfamod yn yr hydref. Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i bawb sy’n bresennol i adeiladu ar arfer da a rhannu profiadau er mwyn sicrhau bod cymuned y lluoedd arfog yn cael y gefnogaeth y mae'n ei haeddu.
Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod anodd, ac wrth i gyllidebau dynhau, mae angen inni fod yn fwy craff o ran y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau a mentrau a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Wrth symud ymlaen, gyda grŵp arbenigol y lluoedd arfog yn gweithio ar y cyd ar draws y sectorau, byddwn yn parhau i gefnogi Gweinidogion, a bydd y grŵp hwn yn parhau i’m cefnogi i i bennu fy mlaenoriaethau a chanolbwyntio adnoddau lle y mae'n rhaid iddynt fod a lle y byddant yn cael yr effaith fwyaf. Yng nghyfarfod nesaf y grŵp arbenigol, yn ystod mis Gorffennaf, byddwn yn nodi blaenoriaethau allweddol a sut y cânt eu cyflawni. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau a lles cymunedau’r lluoedd arfog, gan roi iddynt y gefnogaeth a'r gwasanaethau y maent yn eu haeddu.