Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 28 Mehefin 2016.
Un o'r rhesymau pam y mae cynifer ohonom yn wynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd ag anesmwythyd o'r fath yw bod cymaint o ryfela wedi bod yn Ewrop. Mae'n ganmlwyddiant y Somme, lle y bu farw miliwn o bobl, ac ni all neb bellach gofio pa fudd oedd i hynny. Felly, yn amlwg, rwyf yn cefnogi ein lluoedd arfog sy’n ein cadw'n ddiogel ac yn amddiffyn ein rhyddid, ond mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn osgoi rhyfel, lle y bo hynny'n bosibl.
Fel y dywedwch yn eich datganiad, mae hwn yn gyfnod anodd a chyllidebau’n dynn. I lawer o bobl, mae'r gwasanaeth milwrol yn dod yn ail deulu, yn enwedig i bobl nad ydynt efallai wedi cael y cyfleoedd gorau yn eu teulu cyntaf. Felly, pan gânt eu rhyddhau, gall fod yn debyg i brofedigaeth. Mae gennyf rai pryderon am rai o'r bobl sy'n cael eu rhyddhau i dai cymdeithasol ynysig yn fy etholaeth, ac yna, o ganlyniad i iselder, yn ei chael yn anodd iawn mynd ati i ofyn am help. Felly, meddwl oeddwn i tybed, yn eich grŵp lluoedd arfog, a ydych wedi trafod y ffyrdd y mae'r gwahanol grwpiau cyn-filwyr yn cydlynu ac yn cydgysylltu â’i gilydd er mwyn sicrhau nad oes neb yn disgyn drwy'r bylchau yn y gwasanaethau, a bod yr holl gyn-filwyr diweddar yn cael eu cefnogi a’r cysylltiad â hwy’n cael ei gynnal er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan gânt eu rhyddhau ac wrth iddynt addasu i fywyd sifil.