Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 28 Mehefin 2016.
Wrth gwrs, bu’r Gweinidog a minnau, gyda’r Dirprwy Lywydd a'r Aelod dros Orllewin Clwyd, yn Niwrnod Lluoedd Arfog y gogledd wythnos yn ôl i ddydd Sadwrn, lle clywsom gyfeiriadau teimladwy at frwydrau Jutland a'r Somme, ac mae'n arbennig o berthnasol—a gwn y bydd y Gweinidog wedi amseru’r datganiad hwn yn unol â hynny—mai dydd Gwener yr wythnos hon fydd canmlwyddiant dechrau brwydr y Somme, y diwrnod ofnadwy hwnnw a dechrau’r lladdfa, lle y lladdwyd cannoedd o filoedd o filwyr.
Soniasoch am gyllid; tybed a wnewch chi sôn am y prosiectau yng Nghymru a ariennir gan arian LIBOR, a ariannodd yn rhannol neu a helpodd i ariannu’r datblygiad Dewis Cyntaf yn Wrecsam y cyfeiriasoch ato, ac mae hefyd yn ariannu prosiectau sy'n cael eu darparu trwy CAIS, sef y sefydliad arweiniol—Change Step, mentora cymheiriaid a gwasanaethau cynghori i gyn-filwyr, a'r gwasanaeth Listen In, sy’n cefnogi teuluoedd a ffrindiau cyn-filwyr, sydd wedi datblygu’n brosiect Cymru gyfan? Diolch i'r drefn, cadarnhawyd y cyllid yng nghyllideb y DU yn gynharach eleni.
Cyfeiriasoch at y £585,000 y flwyddyn i gynnal gwasanaeth unigryw GIG Cymru i gyn-filwyr. Tybed a allech helpu â’r ddealltwriaeth o hynny, lle’r ailgadarnhaodd Llywodraeth Cymru, ar ôl cyfnod o ansicrwydd, £100,000 o gyllid blynyddol rheolaidd ar gyfer y gwasanaeth penodol hwnnw, yn hytrach na gwasanaethau cyn-filwyr yn gyffredinol o fewn y GIG, a sut y mae hynny'n cyfateb i'r ffigur o £585,000 yr ydych yn cyfeirio ato yma, yn enwedig yng nghyd-destun y datganiad a wnaed gan glinigwyr mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a milwyr wrth gefn yn gynharach eleni fod cyllid ar gyfer gwasanaeth GIG Cymru i gyn-filwyr yn benodol yn dal i fod yn is na'r cyllid cyfatebol yn yr Alban a Lloegr.
O ran Homes for Veterans yn Wrecsam, rwyf yn gobeithio y byddwch yn cydnabod mai hwn yw’r trydydd llety yn y gogledd i gael ei reoli gan Alabaré Wales Homes for Veterans. Yn ddiweddar, bûm yn ymweld â chartrefi Bae Colwyn a Chyffordd Llandudno ac yn cwrdd yn breifat â’r preswylwyr ac yn gwrando ar yr hyn yr oedd ganddynt i'w ddweud. Rwyf yn gobeithio y byddwch yn nodi eu pryderon yn eich cyfarfod â'r grŵp arbenigol ym mis Gorffennaf, os ydych yn bwriadu nodi blaenoriaethau allweddol a'r ffordd o gyflwyno'r rhain. Yn y cyd-destun hwnnw, mewn ateb ysgrifenedig heddiw, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon wrthyf fod gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn darparu therapyddion dynodedig yn ardaloedd pob un o’r byrddau iechyd, yn darparu gofal arbenigol i gyn-filwyr sy’n gleifion allanol ac sydd â phroblemau iechyd meddwl, megis PTSD. Sut ydych chi, felly, yn cyfeirio at y sylwadau a glywais gan gyn-filwr, mewn cadair olwyn, bythefnos yn ôl, ar ôl i ymyriad gennyf i fynd ag ef o'r diwedd o flaen y tîm iechyd meddwl cymunedol i’w asesu, pan nad oedd y cydlynydd gofal a addawyd—a addawyd o fewn pedair wythnos—wedi cyrraedd ar ôl dau fis? Pan aethpwyd ar drywydd hynny, cawsant wybod bod y bwrdd iechyd wedi colli chwe aelod o staff a’i fod wrthi’n cael staff yn eu lle, a dywedwyd wrthyf ar yr un ymweliad fod rhywun arall a oedd yn cael cymorth gan Homes for Veterans Cymru wedi bod yn aros pedwar mis ers cael ei asesu, a bod therapydd seicolegol gwasanaethau GIG Cymru i Gyn-filwyr bellach i ffwrdd ar absenoldeb salwch ei hun.
Dywedwyd wrthyf hefyd yn ystod y cyfarfod hwnnw â chyn-filwyr, er bod gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn cynnig ymateb cychwynnol da i atgyfeiriadau, mai dim ond cyfarfod asesu cyflym ydoedd a bod y claf wedyn yn ôl ar y rhestr aros os oes angen ymyrraeth seicolegol arno mewn gwirionedd. Wrth gwrs, mae'r rhain yn ddifrifol, yn enwedig pan fyddant yn dod o enau defnyddwyr y gwasanaeth, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi a'ch cydweithwyr edrych ar hynny.
Dywedwyd wrthyf hefyd—. Mae'n ddrwg gennyf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthyf yn ei hymateb ysgrifenedig heddiw, o ran triniaeth a gofal iechyd blaenoriaethol i gyn-filwyr, ei bod wedi gofyn i feddygon teulu ystyried, wrth iddynt wneud atgyfeiriadau, a oedd triniaeth flaenoriaethol, yn eu barn glinigol hwy, yn briodol gan fod cyflwr y claf yn ymwneud â gwasanaeth milwrol. A wnewch chi hefyd felly ystyried y pryder a fynegwyd wrthyf yn bersonol gan gyn-filwyr bythefnos yn ôl? Dywedodd un yn benodol wrthyf na all ddefnyddio’r gwasanaeth iechyd ‘am fod ei gyflwr iechyd meddwl yn ei atal rhag gallu lleisio ei eiriau wrth ei feddyg teulu, a bod angen i’w feddyg teulu ddarllen ei nodiadau a'i gyflyrau iechyd meddwl a chorfforol hirdymor’. Unwaith eto, mae angen llawer mwy o waith, rwyf yn gobeithio y byddwch yn cytuno, yn y maes hwn.
Yr wythnos diwethaf, codais gyda'r Gweinidog busnes yr adroddiad 'Dwyn i Gof: Cymru' a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, sy'n dangos bod angen gwneud llawer mwy i gefnogi anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr, a chadarnhaodd y Gweinidog y byddai datganiad yn dod. A allwch gadarnhau nad dyma’r datganiad hwnnw, a phryd y mae hynny'n debygol o ddigwydd?
Dim ond dau bwynt i orffen. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno comisiynydd i gyn-filwyr sydd wedi bod yn effeithiol iawn o ran nodi a mynegi eu hanghenion, ac mae galw cynyddol yng nghymuned y lluoedd arfog yng Nghymru am gomisiynydd yma sydd nid yn unig yn gwneud hynny, ond sydd yn cyrraedd cymuned ehangach y lluoedd arfog er mwyn gwella canlyniadau a hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael. Beth yw safbwynt Llywodraeth newydd Cymru ar hynny ar hyn o bryd? A wnewch chi edrych eto ar y profiad yn yr Alban ac ymgysylltu â chynrychiolwyr uwch y lluoedd arfog yng Nghymru sydd wedi mynegi cefnogaeth i hyn?
Ac yn olaf, o ran popeth yr wyf wedi ei ddweud a phopeth yr ydych chi a phawb arall wedi ei ddweud, a ydych yn cytuno ai peidio fod angen asesiad o anghenion cyn-filwyr ledled Cymru yn sail i ddarparu gwasanaethau gan Lywodraeth Cymru, os yw am gydnabod yn y pen draw pa waith cynllunio sydd ei angen i gyflawni'r ddarpariaeth y mae’r holl bobl hyn yn dweud wrthym y mae ei hangen arnynt?