Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Rwyf am wneud rhai sylwadau cychwynnol, os caf. Yn gyntaf oll, ynglŷn â CAIS, rwyf yn gyfarwydd iawn â'r sefydliad hwnnw ac rwyf wedi ymweld ag ef, ynghyd â llawer o Aelodau eraill yn y gogledd. Maent yn gwneud gwaith gwych gyda’r cyllid cyfyngedig sydd ganddynt, ond maent yn gwneud hynny’n dda.
O ran y materion ehangach y mae’r Aelod yn eu codi ynglŷn â gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, a gaf i ddweud mai dyma’r unig wasanaeth cenedlaethol i gyn-filwyr yn y DU? Nid wyf yn cydnabod yr anghysondebau y mae’r Aelod yn eu codi o ran fersiwn Cymru a Lloegr, yn enwedig o ran y cyllid. Os yw'r Aelod yn dymuno ysgrifennu ataf ar y mater penodol hwnnw, byddaf yn mynd i'r afael â’r pwyntiau hynny, ond nid yw'n rhywbeth y byddwn yn ei gydnabod heddiw.
Bwriad y gwaith gyda gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yw sicrhau bod y llwybr presennol yn parhau i fodloni anghenion y bobl hynny sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Felly, carwn nodi bod Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid blynyddol o £585,000 i wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, ac maent wedi derbyn 1,657 o atgyfeiriadau ers i'r gwasanaeth gael ei lansio ym mis Ebrill 2010. Ni allaf wneud sylwadau ar yr achosion unigol y mae'r Aelod yn eu codi yn y Siambr heddiw—nid wyf yn gyfarwydd â hwy—ond byddwn yn siomedig pe na byddem yn gallu cynnig gwasanaeth cyson ledled Cymru ac ym mhob un o’r byrddau iechyd lleol pan ydym yn delio ag unigolion bregus iawn. Ond unwaith eto, pe hoffai’r Aelod ysgrifennu at fy adran am y mater hwnnw, os fi yw’r Ysgrifennydd Cabinet priodol, yna edrychaf ar hynny’n benodol.
Mae’r Aelod yn cyfeirio at yr Alban ac mae'n cyfeirio at gomisiynydd yn yr Alban. Rwyf yn awyddus iawn i ddeall gan bobl sy'n profi hyn ar lawr gwlad, felly i mi y grŵp arbenigol yw’r arbenigwyr—yr hyrwyddwyr llywodraeth leol sydd ar y rheng flaen o ran darparu gwasanaethau. Maent yn bwysig iawn o ran y ffordd yr wyf yn gwneud fy mhenderfyniadau ac yn blaenoriaethu fy ngwaith cyllidebu. Wrth gwrs, os oes enghreifftiau eraill o bob cwr o'r wlad neu y tu hwnt i'n ffiniau naturiol, rwyf yn fwy na pharod i ddeall sut mae darparu’r gwasanaeth gorau i’r bobl sydd wedi ein gwasanaethu'n dda. Felly, byddaf yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, ond yr wyf yn dibynnu ar y grŵp arbenigol sy'n cynnwys llawer o aelodau o’r lluoedd arfog—cyn-aelodau o’r lluoedd arfog—sy'n gwybod sut y mae'r system yn gweithio. Felly, byddaf yn cymryd fy safbwyntiau oddi wrthynt hwy.
O ran yr asesiad o anghenion y mae'r Aelod yn ei godi, yn olaf, cyfeiriaf yn ôl at fy ymateb diwethaf. Credaf mai’r hyn y mae angen inni ei wneud yw gwrando ar bobl sydd wedi profi’r gweithredoedd a’r digwyddiadau hyn yn y lluoedd arfog, a byddaf yn gwrando ar gyngor yr arbenigwyr wrth imi lunio polisi ar gyfer y Llywodraeth hon wrth inni symud ymlaen.